Charlie MuCoubrey

Charlie MuCoubrey

Ganed Charlie yng Ngogledd Iwerddon, a graddiodd fel deintydd ym Mhrifysgol Lerpwl yn 1989 cyn dechrau gweithio fel deintydd y GIG yn y Rhyl. Daeth yn bartner llawn yn 1994 a gweithiodd yno nes iddo orfod ymddeol oherwydd anaf i’w arddwrn yn 2012.

Ailhyfforddodd Charlie fel cynghorydd morgais ac agorodd asiantaeth eiddo a gosod yn Abergele yn 2013. Roedd y diffyg tai addas a fforddiadwy yn ffactor allweddol yn ei benderfyniad i sefyll fel cynghorydd sir, ac fe’i hetholwyd yn 2017. Penodwyd ef yn aelod cabinet gyda chyfrifoldeb dros Dai, Gwasanaethau Rheoleiddio a Refeniw a Budd-daliadau yn 2019.

Yn 2021, etholwyd Charlie yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a chafodd ei ailethol yn dilyn etholiadau lleol 2022. Fel rhan o’r rôl honno, roedd yn llefarydd Llywodraeth Leol Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn Ddirprwy Lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), ac yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru.

Camodd Charlie i lawr fel Arweinydd yn 2025 ac mae wedi mwynhau’n fawr cael mwy o amser i weithio yn ei ward fel cynghorydd sir. Mae’n llywodraethwr mewn dwy ysgol leol yn ei dref enedigol, Abergele, yn ymddiriedolwr Gweithredu Cymunedol Abergele ac yn Gadeirydd Clwb Rygbi Abergele.

Last modified on Gorffennaf 2nd, 2026 at 1:33 pm