Ein Bwrdd
Mae’n gyfrifoldeb Bwrdd Cartrefi Conwy i sicrhau bod yr amcanion y sefydlwyd y busnes ar eu cyfer yn cael eu cyflawni. I wneud hyn, rhaid iddo ddarparu arweinyddiaeth strategol a chyfeiriad ar draws Grŵp Cartrefi Conwy (a’i Is-gwmnïau), gan sicrhau bod gweithgareddau busnes yn cael eu hadnoddau’n briodol, yn hyfyw yn ariannol ac yn gynaliadwy, yn cael eu cynnal yn unol â’r deddfau, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol, ac y caiff asedau cymdeithasol eu diogelu.
Mae Bwrdd Cartrefi Conwy yn cynnwys 10 o bobl a benodwyd oherwydd y sgiliau a’r profiad sydd ganddynt i’w gynnig. Oherwydd bod cwmpas y materion y mae’n gyfrifol amdanynt mor eang, mae’r Bwrdd wedi sefydlu nifer o Bwyllgorau gyda phwrpas penodol i gynghori a darparu sicrwydd ar rai agweddau o’r busnes yn fwy manwl.
Mae’r bobl ganlynol wedi’u penodi ynghyd â chynrychiolwyr pwyllgor ychwanegol.
Meet The Team
Last modified on Rhagfyr 3rd, 2025 at 12:41 pm