Justin Everley

Justin Everley

Mae Justin Everley yn Brif Weithredwr Global Shred Ventures (GSV), cwmni sy’n datblygu seilwaith hamdden cenhedlaeth nesaf gyda ffocws ar lwyfannau chwaraeon antur graddadwy.

Mae Justin wedi dal nifer o swyddi arwain uwch ar draws y sectorau hamdden, chwaraeon a lletygarwch, gan feithrin arbenigedd mewn datblygu a masnacheiddio profiadau sy’n seiliedig ar gyrchfannau.

Chwaraeodd Justin ran ganolog yn natblygiad Adventure Parc Snowdonia, gan ei drawsnewid yn un o gyrchfannau hamdden aml-weithgaredd mwyaf blaenllaw’r DU. Roedd hyn yn cynnwys morlyn syrffio mewndirol, gwesty Hilton Garden Inn, cyfleusterau antur dan do a sba o safon uchel.

Mae Justin hefyd wedi arwain rhaglenni trawsnewid ar raddfa fawr o fewn sefydliadau a ariennir gan y sector cyhoeddus, gan gynnwys ei rôl ddiweddaraf ym Mhlas Menai (Canolfan Chwaraeon Awyr Agored Genedlaethol Cymru), lle bu’n gyfrifol am wella cynaliadwyedd ariannol, effeithlonrwydd gweithredol a thwf cynulleidfaoedd.

Last modified on Gorffennaf 2nd, 2026 at 1:38 pm