Goetre Uchaf

Mae Goetre Uchaf yn ddatblygiad o adeiladau newydd ym Mangor, a adeiladwyd gan Redrow Homes. Mae Cartrefi Conwy wedi caffael 85 o unedau yn cael eu gosod ar gyfraddau Rhentu Canolradd, a byddant ar gael yn ystod y 10 mlynedd nesaf

Mae’r cartrefi wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer teuluoedd a gweithwyr allweddol ac yn cael eu gosod 20% yn rhatach na phris y farchnad. Mae datblygiad Goetre Uchaf yn nodi dechreuad ehangu Cartrefi Conwy o’i ardal ddaearyddol draddodiadol.

Roedd Cartrefi Conwy wedi cytuno i brynu 31 o dai ar gyfer Rhentu Canolradd yn unol â’r cytundeb A106 gwreiddiol. Fodd bynnag, yn dilyn diffyg yn y niferoedd a fanteisiodd ar eiddo dynodedig ar gyfer Perchnogaeth Cartref Gostyngol, cysylltodd Redrow â ni i brynu’r eiddo fforddiadwy sy’n weddill ar y cynllun cyfan.

Ffeithiau Allweddol

  • Cyfanswm Cost y Cynllun: £9.1M
  • Cyfanswm cost prynu: £8.595M
  •  85 o Unedau
  •  Cymysgedd o dai 2 a 3 ystafell wely a rhandai 1 a 2 ystafell wely
  •  Oll ar gyfer rhent canolradd
  •  10 uned 2016/17
  •  9 uned 2017/18
  •  45 uned 2018/2019
  •  21 uned 2019/20

Last modified on Mawrth 2nd, 2020 at 3:13 pm