Mae cyswllt cryf wedi ei sefydlu rhwng plant bach a phobl hŷn yn Hen Golwyn.
Mae’r cenedlaethau yn cwrdd ar gyfer sesiynau rheolaidd o’r enw ‘Rhai Bach a Rhai Doeth’ (‘Wee Ones Meet Wise Ones’) yng nghanolfan gymunedol Y Fron sydd yn rhan o’r llety byw’n annibynnol sy’n cael ei redeg gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy.
Yn y cynllun twymgalon hwn, mae mamau yn mynd a’u babanod a’u plant ifanc i gyfarfod â phobl hŷn am awr o hwyl, gemau, caneuon a thamaid o deisen.
Mae’r fenter, sy’n bartneriaeth rhwng Tîm Lles Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant (YGGP) a Cartrefi Conwy, yn trefnu’r cyfarfodydd misol, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan brosiect tebyg sy’n cael ei redeg gan YGGP yn Swydd Tyrone yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd Clara Jones, Swyddog Llesiant Cymunedol Conwy: “Roedd Cathy Whitfield, gwirfoddolwr o’r YGGP wedi cysylltu yn gofyn a oedd gyda ni unrhyw brosiectau i bontio’r cenedlaethau ar gyfer y mamau ifanc roedden nhw mewn cyswllt â hwynt.
“Drwy weithio gyda Nerys Veldhuizen, Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy, roeddwn yn medru defnyddio Canolfan Gymunedol Y Fron a gwahodd tenantiaid Cartrefi Conwy a phreswylwyr tai gofal a nyrsio lleol, ac yn wir unrhyw aelod o’r gymuned leol i ddod heibio.
“Mae llawer o fudd i genedlaethau gwahanol i ddod at ei gilydd. Mae rhyngweithio gyda phlant yn rhoi hwb i bobl ac nid yw pob person hŷn yn cael y cyfle i brofi hynny.
“Mae cyfarfod efo mamau ifanc hefyd yn helpu i ailgynnau atgofion a chynnig cyfle i rannu straeon ac awgrymiadau am eu profiadau nhw eu hunain o fod yn rhiant.
“Ond yn fwy na dim mae’r sesiynau yma’n helpu i atal teimlad o unigrwydd y gall pobl hŷn a mamau ifanc ei brofi.
“Rydym wedi cynnal pedwar digwyddiad hyd yma ac maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus, rydym yn mynd i ddal ati a sefydlu cynlluniau newydd mewn ardaloedd eraill.”
“Rydym hefyd yn y camau cynnar o gynllunio digwyddiad ‘Rhai Bach a Rhai Doeth yn Mynd am Bicnic’ ar y traeth yn yr haf, a bydd croeso i bawb i fynychu’r digwyddiad hwnnw.”
Dywedodd Nerys Veldhuizen: “Mae Cartrefi Conwy yn darparu’r lleoliad am ddim ac rydym yn annog y tenantiaid sydd am fynychu i wneud hynny.
“Mae’n gynllun sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn helpu i wella llesiant y tenantiaid hŷn a datblygiad cynnar y plant.
“Rwyf hefyd yn hapus iawn gyda’r ffordd y mae pethau wedi mynd hyd yma. Mae gyda ni denantiaid sydd ddim fel arfer yn mynd i ddigwyddiadau yn mynychu’r sesiynau sy’n beth gwych. Mae’n braf i weld mamau, babanod a phlant bach yn mwynhau gyda’r genhedlaeth hŷn.”