Cynllun tai uchelgeisiol gwerth £5.2m yn rhoi bywyd newydd i hen ysgol a hwb i’r economi

Cynllun tai uchelgeisiol gwerth £5.2m yn rhoi bywyd newydd i hen ysgol a hwb i’r economi

Mae Cartrefi Conwy wedi dechrau gweithio ar gynllun tai uchelgeisiol gwerth £5.2 miliwn yng Nghyffordd Llandudno a fydd yn helpu i gynnal 70 o swyddi presennol a chreu chwe swydd newydd.

Mae’r datblygiad yn rhoi bywyd newydd i hen ysgol gynradd, Ysgol Maelgwn a gaeodd ddwy flynedd yn ôl pan symudodd y disgyblion i ysgol newydd sbon, Ysgol Awel y Mynydd.

Dyma’r prosiect mwyaf cymhleth y mae Cartrefi Conwy wedi gweithio arno hyd yma gan fod yr hen ysgol a agorodd yn 1907 yn bwysig yn bensaernïol ac mae llawer o’r nodweddion gwreiddiol yn cael eu diogelu.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n dweud y bydd y prosiect yn rhoi hwb i’r economi leol.

Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol gwerth £2.5 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru a gobeithir y bydd y tenantiaid cyntaf yn symud i’w cartrefi newydd yn hydref 2020.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan y contractwyr o Fochdre, Brenig Construction, sydd wedi ymrwymo i gyflogi pobl leol a defnyddio cyflenwyr lleol.

Yn ôl Brenig, bydd tua 90 y cant o’r bobl sy’n gweithio ar y prosiect yn dod o sir Conwy.

Bydd swyddi newydd ar gyfer peiriannydd dan hyfforddiant a syrfëwr meintiau dan hyfforddiant.

Yn ogystal, bydd pedwar prentisiaeth ar gael drwy’r Academi Gyflogaeth a sefydlwyd gan is-gwmni Cartrefi Conwy, Creu Menter.

Mae’r prosiect yn rhan o strategaeth £50 miliwn y gymdeithas dai i greu 400 o gartrefi newydd dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd 27 o gartrefi newydd a gweithiodd Cartrefi Conwy yn agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau bod y datblygiad yn cwrdd ag anghenion tai lleol.