Panel craffu yn adolygu’r ffordd yr ydym yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Panel craffu yn adolygu’r ffordd yr ydym yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2018 cyfarfu eich panel craffu tenantiaid naw gwaith i adolygu’r ffordd yr ydym yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y panel yn edrych am bethau roedden nhw’n meddwl eu bod yn gwneud yn dda a phethau roedden nhw’n meddwl y gallem ni fod yn eu gwneud ychydig yn well.

Fel rhan o’r adolygiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymerodd y panel craffu ran mewn treial ar gyfer yr Ap Swn Newydd sydd bellach ar gael i denantiaid recordio a rhoi gwybod am niwsans swn.

Gall denantiaid lawrlwytho app yma AM DDIM or enw The Noise App. Mae’n galluogi tenantiaid i reportio niwsans swn yn syth atom ni. Gallwch ei lawrlwytho o:

www.thenoiseapp.com neu edrychwch am ‘The Noise App RHE’ ar Google Play neu’r Apple App Store.

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i rai cwestiynau a ofynnwn yn yr arolwg boddhad tenantiaid mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn ei gwneud yn haws monitro boddhad tenantiaid a cheisio unioni pethau os nad yw tenantiaid yn fodlon.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Jan neu Linda yn ein adran Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – 0300 124 0040.

Category: Uncategorized @cy