Mae plant ysgol wedi bod yn diolch mewn cân i’r tîm sydd wedi gwneud gwaith gwella anferth gwerth £47,000 yn eu llyfrgell leol.
Aeth plant o Ysgol Babanod Llanfairfechan ac Ysgol Pant y Rhedyn i berfformio caneuon yn Gymraeg a Saesneg yn y digwyddiad arbennig a gynhaliwyd i ail agor y llyfrgell, sydd ar y stryd fawr yn Llanfairfechan, yn swyddogol.
Cafodd yr adeilad ei weddnewid gan y gwaith a wnaed gyda chymorth cymdeithas tai Cartrefi Conwy a chwmni adeiladu Brenig Construction.
Fe wnaeth Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan hefyd lansio cystadleuaeth ysgrifennu stori fer a chystadleuaeth dylunio logo, i’r plant ysgol gael cymryd rhan.
Bydd y dyluniad logo buddugol yn cael lle teilwng ar ffenestri’r llyfrgell.
Roedd pobl yn wresog iawn eu cymeradwyaeth wrth i Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, dorri’r rhuban a gadael i ddefnyddwyr, hen a newydd, fynd i mewn i’r cyfleusterau newydd.
Dywedodd ei bod yn galondid gweld yn uniongyrchol y gwaith gwych a wnaed gan y gymuned, sydd wedi troi adeilad y llyfrgell yn ganolbwynt bywiog i fywyd y gymuned.
Gallwch wybod mwy am ein datblygiad yn Llanfairfechan fan hyn