Mae cynlluniau uchelgeisiol wedi cael eu datgelu ar gyfer ystâd carbon isel newydd o 131 o dai fforddiadwy yng ngogledd Cymru.
Daeth y safle 12 erw ym Mhensarn, ger Abergele, i feddiant y gymdeithas dai Cartrefi Conwy yn gynharach eleni.
Os bydd cynllunwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi’r golau gwyrdd i’r bwriad yna dyma fydd y cynllun tai mwyaf erioed i Cartrefi Conwy ymgymryd ag ef.
Mae hen safle Inter Leisure yn Ffordd Tywyn eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer tai ar ôl cais llwyddiannus gan y perchnogion blaenorol.
Bydd Cartrefi Conwy yn gwneud cais am ganiatâd i ddiwygio’r caniatâd cynllunio presennol ac maent wedi gofyn am fwy o amser i wneud hynny.
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr Cartrefi Conwy, Katie Clubb, maent wedi ymrwymo i ddefnyddio llafur lleol a chyflenwyr lleol, gan roi hwb enfawr i economi’r rhanbarth.
Bydd y datblygiad hefyd yn “newyddion gwych” i Creu Menter, is-gwmni Cartrefi Conwy, a fydd yn gwneud y fframiau pren ar gyfer y tai modiwlaidd, ynni isel yn eu ffatri yn y Rhyl.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo, byddai’r cynllun yn mynd â’u llyfr archebion i dros 300 o gartrefi, gan ddarparu mwy o swyddi a chyfleoedd hyfforddi i denantiaid cymdeithasau tai a phobl leol eraill.
Mae’r ffatri, sydd eisoes wedi creu naw swydd newydd, wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Mae datblygiad Pensarn yn rhan o strategaeth Cartrefi Conwy i adeiladu 1,000 o gartrefi gyda biliau ynni mor isel â phosib ac mae’n cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi fforddiadwy, ynni-effeithlon sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Yr hyn sy’n fanteisiol am system fodiwlaidd Passivhaus yw bod modd ei addasu mewn gwahanol ffyrdd – yn amrywio o eiddo unllawr un ystafell wely i gartref teuluol deulawr.
Bydd insiwleiddio perfformiad uchel yn cael ei ddefnyddio i wneud y cartrefi yn gwbl rydd o ddrafftiau, gan leihau colledion gwres ac ar yr un pryd creu cartref heb fawr ddim effaith amgylcheddol ac arbed hyd at 80 y cant o gostau ynni blynyddol i breswylwyr.
Bydd y cynllun yn darparu cartrefi y mae mawr eu hangen ar rent cymdeithasol neu ganolradd.
Dywedodd Katie Clubb fod yr angen am y datblygiad yn cael ei danlinellu gan y ffaith bod tua 1,800 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yng Nghonwy.
Meddai: “Mae hyn yn gyffrous iawn oherwydd dyma fydd y datblygiad tai unigol mwyaf i Cartrefi Conwy ei wneud erioed.
“Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mi wnaethon ni gaffael y tir yn gynharach eleni ac mae pob tŷ ar y safle yn mynd i fod yn gartref fforddiadwy.
“Byddan nhw i gyd yn gartrefi modiwlaidd gyda’r fframiau’n cael eu hadeiladu yn ffatri Creu Menter yn y Rhyl, gan greu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl sydd bellaf o’r farchnad swyddi.
Dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol datblygiad a thwf Cartrefi Conwy, David Kelsall: “Er bod gan y safle ganiatâd cynllunio eisoes, ni symudwyd ymlaen â’r cynlluniau ar gyfer y datblygiad gwreiddiol ond mae’r caniatâd hwnnw’n dal yn fyw.
“Rydym yn bwriadu diwygio’r cynllun i ddarparu cynllun tai fforddiadwy 100 y cant a fydd yn gymysgedd o gartrefi â thenantiaid ar gyfer rhent cymdeithasol a rhent canolradd.
“Mae gennym gynllun drafft ar hyn o bryd ac mae wedi mynd at yr awdurdod lleol iddyn nhw wneud sylwadau ar y cynllun.
“Unwaith y byddwn wedi cadarnhau ein dyluniadau byddwn yn ymgynghori’n llawn â’r cyhoedd ac ymgyngoreion statudol eraill.”
Dywedodd Adrian Johnson, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau masnachol Cartrefi Conwy, a sefydlodd y ffatri Creu Menter, y byddai’n ddatblygiad hynod arwyddocaol ar sawl lefel.
Meddai: “Gall hyn fod yn newyddion anhygoel o dda ac rydym yn croesi ein bysedd o ran cynllunio.
“Byddai hyn gyfwerth â thair blynedd o archebion ar gyfer y ffatri yn y Rhyl a byddai’n mynd â chyfanswm yr archebion sydd gennym i dros 300.
“Mae’r tai eu hunain yn ddatblygedig iawn o ran safonau rheoli adeiladu, yn rhagori ar y gofynion atal sain ac mae rhwystrau nwy radon yn rhan o’u hadeiladwaith hefyd.
“Maent yn cyrraedd safon oddefol sy’n golygu eu bod nhw’n mynd i fod ymhlith y cartrefi mwyaf ynni effeithlon y gallwch chi eu hadeiladu yn y DU.
“Rydym yn cynhyrchu’r paneli yn y ffatri sy’n golygu y gellir eu codi’n gyflym iawn ar y safle. Nid oes angen crefftau gwlyb felly os bydd unrhyw dywydd gwael nid yw’n effeithio arnom.
“Bonws go iawn arall y cynnyrch hwn yw ei fod mor hyblyg a gallwch adeiladu unrhyw beth o fflat un ystafell wely i dŷ pum ystafell wely.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mae’r cartrefi modiwlaidd hyn yn chwyldroi’r farchnad tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru.
“Mae’r datblygiad yn arbennig o amserol oherwydd mae costau ynni wedi cynyddu’n aruthrol ac yn peri pryder mawr i bobl ar hyn o bryd.
“Bydd costau ynni cartrefi Pensarn 80 y cant yn rhatach na chartrefi o faint tebyg a adeiladwyd mewn dulliau traddodiadol.
“Y fantais arall yw y bydd yr elw a wneir gan Creu Menter yn cael ei ailgylchu er lles cymdeithasol sydd mewn gwirionedd yn dod â thenantiaid yn ôl i gyflogaeth â thâl. Mae hyn yn elw gyda phwrpas.”