Gwaith yn dechrau ar gynllun cartrefi clyfar sy’n rhoi hwb o £60m i economi i gogledd Cymru

Gwaith yn dechrau ar gynllun cartrefi clyfar sy’n rhoi hwb o £60m i economi i gogledd Cymru

Mae gwaith ar fin dechrau ar ddatblygiad tai mawr o gartrefi uwch-dechnoleg a fydd yn rhoi hwb o £60 miliwn i economi gogledd Cymru.

Bydd cynllun Maes y Felin yng Nglan Conwy, ger yr A55, yn gweld adeiladu 107 o gartrefi ynni effeithlon gyda band eang cyflym, gan eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer gweithio gartref.

Y datblygwr yw Cartrefi Calon, is-gwmni i gymdeithas tai Cartrefi Conwy a’r cwmni budd cymunedol Creu Menter.

Y prif gontractiwr ar gyfer y prosiect yw cwmni Brenig Construction o Fochdre sydd ar fin dechrau ar y gwaith o baratoi’r safle ar gyfer y datblygiad, ac mae disgwyl i’r gwaith gynnal 500 o swyddi.

Mae Cartrefi Calon eisoes wedi cwblhau gwaith rhagarweiniol ac ymchwiliol gan gynnwys arolygon bywyd gwyllt ac archeolegol er mwyn cyflawni amodau cynllunio perthnasol.

Disgwylir y bydd 95 y cant o’r bobl a gyflogir ar y cynllun, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, yn byw o fewn radiws o 20 milltir i’r safle 13 erw.

Mae’r cwmni, sy’n rhoi pwys mawr ar ei gysylltiadau â’r gymuned, hefyd wedi ymrwymo i hyfforddi prentisiaid lleol ac i ddefnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.

Bydd y datblygiad yn cynnwys eiddo dwy, tair a phedair ystafell wely a 33 ohonynt yn gartrefi fforddiadwy i deuluoedd.

Cyfarwyddwr Datblygu Brenig Bryn Roberts sy’n goruchwylio’r prosiect ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad ym maes datblygu eiddo preswyl.

Dywedodd:Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Conwy drwy gydol y broses i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar lif traffig lleol tra bod y gwaith ffordd yn digwydd.

“Mae hwn yn ddatblygiad blaenllaw i’r cwmni ac mae’n bwysig i ni fod prosiectau fel Maes y Felin nid yn unig yn darparu tai lleol y mae mawr eu hangen ond hefyd cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn y gymuned yn ogystal â bod o fudd i economi’r Gogledd.

“Elfen allweddol i Calon a ninnau fydd sicrhau bod llafur lleol yn cael ei ddefnyddio i adeiladu’r cartrefi hyn a bydd prentisiaethau yn cael eu cynnig i’r rhai sydd am ymuno â’r diwydiant adeiladu.

“Rydym am adeiladu cartrefi arloesol o ansawdd uchel, ynni-effeithlon, gan groesawu technoleg glyfar fel y gallwn sicrhau bod y tai hyn yn addas at y diben ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Bydd yr holl dechnoleg yn cael ei darparu fel rhan o’r fanyleb safonol ac nid fel pethau ychwanegol costus.

“Mae hynny’n ddelfrydol ar gyfer y nifer cynyddol o bobl sy’n dewis gweithio gartref y dyddiau hyn.

“Mae’n duedd sydd wedi cyflymu o ganlyniad i’r pandemig ac mae’n ymddangos yn sicr y bydd llawer mwy o bobl yn gweithio gartref yn y dyfodol, naill ai drwy’r amser neu’n rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a mynd i mewn i’r swyddfa.”

 

Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Fe wnaethon ni ddewis yr enw Cartrefi Calon gyda gofal mawr oherwydd rydyn ni eisiau i’r ymdeimlad o gymuned fod wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

“Mae yna brinder tai yng ngogledd Cymru, yn enwedig tai fforddiadwy, ac rydym yn credu fod y datblygiad hwn yn cynnig ateb arloesol i’r broblem honno.

“Mae’n golygu y gallwn ddefnyddio’r refeniw o’r elw ar y cynllun hwn i greu mwy o gartrefi y gall pobl leol eu fforddio, nid yn unig yng Nghonwy ond ar draws y Gogledd.

“Er bod gennym brofiad ym maes datblygu, roedd angen adeiladwr arnom hefyd i fod yn bartner gyda ni ac mae gan Brenig Construction, sy’n rhannu ein gwerthoedd, yr arbenigedd angenrheidiol ac rydym hefyd yn gyfarwydd â’r cwmni trwy amrywiol gontractau dros y pedair blynedd diwethaf.”

“Maen nhw’n Fusnes Bach a Chanolig lleol o galon Conwy sy’n cyflogi llawer o weithwyr lleol, maen nhw’n defnyddio cadwyn gyflenwi leol ac yn rhannu’r un weledigaeth a’r gwerthoedd â Creu Menter a Chartrefi Conwy.”

I gael rhagor o fanylion am eiddo Maes y Felin anfonwch e-bost at sales@calonhomes.co.uk

 

 

 

Category: Cartrefi News