Amanda Wiggan

Amanda Wiggan

Amanda Wiggan

Mae Amanda wedi’i dewis i ymuno â Cartrefi Conwy ac yn dod â chyfoeth o wybodaeth ar draws sawl sector economaidd a sefydliadau hynod reoledig. Mae hi wedi gweithio ar lefelau uwch, gan wasanaethu fel penodiad gan y llywodraeth o fewn y diwydiant rheilffyrdd, ac hefyd fel arolygydd lleyg i’r Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae hi wedi gwasanaethu ar fwrdd cymdeithas dai yn y gorffennol, gan ddod yn aelod arweiniol ar gyfer tai yn ogystal â hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae rolau eraill Amanda wedi cynnwys bod yn aelod o’r Pwyllgor Cynghori Diogelu’r Amgylchedd (Cymru) ac hefyd yn aelod o’r Grŵp Cynghori Annibynnol Cenedlaethol ar gyfer Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Ar hyn o bryd, mae hi’n gadeirydd Sefydliad Aster, elusen sy’n gweithredu ochr yn ochr â Grŵp Tai Aster ac sy’n gweithio’n ddiflino i greu atebion tymor hir i gefnogi ei chymunedau yn erbyn effaith heriau economaidd a chymdeithasol.
Mae Amanda hefyd wedi sefydlu ac wedi cefnogi grwpiau cymunedol gwirfoddol sydd wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau a derbyn cyllid, ac mae hi’n wirfoddolwraig ieuenctid yn ei hamser hamdden.

Last modified on Rhagfyr 1st, 2025 at 10:38 am