![]()
Mae Ruth yn gyfrifydd siartredig a ddechreuodd ei gyrfa yn Deloitte yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae hi wedi bod yn gyfarwyddwr ac yn aelod arweiniol o’r tîm rheoli uwch yn Jones Bros Civil Engineering UK ers dros ddeg mlynedd gyda chyfrifoldeb dros ystod o swyddogaethau gweithredol gan gynnwys AD, Cynllunio’r Gweithlu, Tâl, Hyfforddiant a Brand a Chyfathrebu.
Yn ystod cyfnod o dwf parhaus, bu’n chwarae rôl wrth nodi’r gofynion a chyflwyno gwelliannau cynaliadwy a defnyddiol i’r offer sy’n sail i weithgareddau’r tîm cyflwyno prosiectau.
Mae Ruth yn byw yn Sir Ddinbych gyda’i gŵr a’i thri phlentyn ifanc. Mae Ruth yn edrych ymlaen at ymuno â bwrdd Cartrefi Conwy a chael y cyfle i gyfrannu at weledigaeth y sefydliad o ddarparu tai cymdeithasol o ansawdd uchel a chymunedau cynaliadwy yng Ngogledd Cymru.
Last modified on Rhagfyr 1st, 2025 at 10:37 am