Beth i’w wneud pe bai tân yn eich bloc
Mae’n bwysig iawn eich bod yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau diogelwch tân lle rydych yn byw. Gellir canfod y wybodaeth hon yn yr holl ardaloedd cymunedol. Os nad ydych yn sicr beth yw’r gweithdrefnau diogelwch yn eich bloc siaradwch â ni ar unwaith a gallwn eu hegluro i chi.
Diogelwch Tân mewn Ardaloedd Cymunedol
Mae’n bwysig bod yr holl ardaloedd cymunedol yn cael eu cadw’n glir bob amser i atal y perygl o ledaenu tân drwy’r ardaloedd cymunedol.
Os byddwn yn darganfod eitemau sy’n rhwystro’r ardaloedd cymunedol, byddwn yn cymryd y camau priodol i symud y rhain.
Edrychwch ar ein Nodiadau Canllaw Rheoli Diogelwch Tân mewn Ardaloedd Cymunedol i gael rhagor o wybodaeth
Rydym hefyd yn eich atgoffa i gadw’r holl ddrysau tân ar gau bob amser. Mae drysau tân sydd ar gau yn gymorth i atal tân rhag lledaenu, gan roi amser i’r gwasanaethau brys gyrraedd a chynorthwyo i ymladd tân. PEIDIWCH â dal drysau tân ar agor gyda gwrthrychau. Mae hyn yn cynnwys drysau mynediad cymunedol, drysau coridorau a drysau fflatiau.
Last modified on Chwefror 19th, 2020 at 12:40 pm