Peidiwch ag anghofio – Mae gwasanaeth tân ac achub Gogledd Cymru’n cynnig gwiriadau diogelwch tân yn y cartref am ddim. GWNEWCH EICH APWYNTIAD HEDDIW.
Larymau tân
- Rydych yn chwe gwaith yn fwy tebygol i farw mewn tân os nad oes gennych larwm tân.
- Mae larymau tân yn rhoi rhybuddion cynnar am dân – sy’n arbennig o bwysig pan fydd pawb yn cysgu.
- Dylid cynnal a chadw larymau’n briodol, felly rhowch brawf ar eich larwm bob wythnos. (Os ydych mewn tai gwarchod â chefnogaeth, bydd eich Cydlynydd Byw yn Annibynnol yn gwneud y gwiriadau yma i chi).
- Newidiwch y batri bob blwyddyn.
- Dylid gosod un larwm ar bob llawr, ar nenfwd y cyntedd neu ar ben y grisiau’n ddelfrydol.
Last modified on Ebrill 5th, 2017 at 2:11 pm