Mae ffigwr cymunedol ymroddgar wedi cael ei ganmol fel arwr lleol ar ôl ei “ymdrechion diflino” i helpu ei gymdogion.
Mae Colin Matthews wedi dod yn wyneb cyfarwydd ac yn rhywun y mae pobl yn ymddiried ynddo ar ystâd Fron yn Hen Golwyn ar ôl “mynd yr ail filltir dro ar ôl tro” i gynorthwyo ei gyd-breswylwyr.
Mae’r gŵr 74 oed yn un o hoelion wyth y gymuned gan neilltuo llawer o’i amser hamdden i wneud sawl tro da a charedig â’i ffrindiau o amgylch yr ystâd, a reolir gan y darparwr tai cymdeithasol Cartrefi Conwy.
O gasglu presgripsiynau i fynd i siopa ar eu rhan a helpu i ddatrys unrhyw faterion a allai godi, mae Colin bob amser yn mynd allan o’i ffordd i helpu eraill.
Ar ôl dangos ei fysedd gwyrdd trwy helpu i arwain clwb garddio ar yr ystâd, mae Colin yn benderfynol o sicrhau bod y Fron yn edrych mor ddeniadol â phosib.
Felly, ymunodd â’i gyd-denantiaid, arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr trefnwyr digwyddiadau Cartrefi Conwy i drefnu codi sbwriel o amgylch yr ystâd.
“Rydyn ni’n cynnal y gweithgareddau codi sbwriel yma bob blwyddyn ac maen nhw bob amser yn syniad da,” meddai Colin, sy’n byw ar Ffordd Siglen.
“Mae pobl o’r Fron yn ymfalchïo yn yr ystâd ac eisiau iddi edrych yn dda.
“Os ydyn nhw’n gweld bod rhywun wedi gollwng sbwriel, mi wnawn nhw gael gair tawle efo nhw a gofyn iddyn nhw ei godi.
“Mi fyddwn i’n annog pawb i geisio helpu i sicrhau bod yr ystâd yn edrych cystal â phosib.”
Yn wreiddiol o Ganolbarth Lloegr, mae Colin wedi byw yn yr ardal ers 26 mlynedd.
Mae wedi dod yn un o feibion mabwysiedig i’r Fron, gan uniaethu ag ysbryd cymunedol byrlymus yr ystâd ac adeiladu perthynas gref gyda’i gyd-breswylwyr.
Mae Colin wedi mynd allan o’i ffordd i helpu ei gyd-denantiaid ac mae hefyd wedi dod yn gyswllt pwysig i Cartrefi Conwy ar yr ystâd, gan gynnwys helpu i adrodd am unrhyw waith trwsio sydd angen ei wneud.
Mae ymdrechion gwirfoddol y cyn-gogydd a’r gweithiwr diogelwch wedi cynnwys rhedeg Grŵp Garddio Ffordd Pandy a grŵp cymdeithasol, y Trendy Travellers, sy’n trefnu teithiau ar gyfer preswylwyr.
“Mae yna ysbryd cymunedol da iawn yma. Mae’r bobl sy’n byw ar y Fron yn helpu ei gilydd,” meddai Colin, sy’n aelod o Gyngor Tref Bae Colwyn.
“Mae pawb yn tynnu at ei gilydd ac yn gofalu am ei gilydd.
“Os oes gan bobl fater y mae angen ei sortio, yna rwy’n hapus i ffonio’r switsfwrdd ar eu rhan a’u helpu.
“Mae llawer o bobl yn cysylltu â mi ac rwy’n hapus i ddod i gael golwg ar yr hyn sydd angen ei wneud.”
Mae ymdrechion Colin wedi cael eu cydnabod yn ymgyrch ‘Arwyr Yma i Helpu’ Cartrefi Conwy, sy’n dathlu gwaith da tenantiaid ar draws y cymunedau y mae’r gymdeithas dai yn eu gwasanaethu.
Mae Colin yn parhau i fod yn ddiymhongar y ganmoliaeth sydd wedi dod i’w ran, gan ddweud: “Rwy’n gwneud pethau yma canmoliaeth neu beidio.
“Os oes angen gwneud rhywbeth yna rwy’n hapus i’w wneud.
“Rydw i eisiau helpu’r bobl sy’n byw yma ar yr ystâd. Rydyn ni’n gofalu am ein gilydd.
“Mae Cartrefi wedi gwneud llawer o waith da ar y Fron. Fel ni, maen nhw hefyd wedi ymfalchïo yn yr ystâd.
“Maen nhw wedi gweld potensial y Fron ac wedi helpu i wella pethau.”
Helpodd Nerys Veldhuizen, cydlynydd ymgysylltu person hŷn Cartrefi Conwy, i drefnu’r gweithgareddau codi sbwriel.
Mae hi’n credu bod Colin yn llawn haeddu’r ganmoliaeth a ddaw ei ffordd.
“Mae Colin yn enghraifft wych o’r gwaith da sy’n digwydd ar yr ystâd,” meddai.
“Mae’n gwneud llawer iawn o waith da, di-dâl i’r gymuned.
“Os gofynnwch unrhyw beth iddo mae bob amser wrth law ac yn barod i helpu.
“Yn ystod y cyfnod clo mae wedi bod yn gwneud pob math o bethau i helpu’r preswylwyr. Mae wedi mynd i siopa ar eu rhan ac wedi casglu eu presgripsiynau.
“Mae’n mynd yr ail filltir i helpu’r tenantiaid ar y Fron. Mae Colin yn arwr lleol go iawn.”
Ymhlith y rhai a ymunodd â Colin i gario teclyn codi sbwriel a bag bin yr oedd Chris Hughes, aelod o Gyngor Sir Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn, sydd hefyd yn gadeirydd Ffederasiwn Amgylchedd Bae Colwyn.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn dda i’r gymuned. Mae’n helpu i sicrhau bod y sbwriel yn cael ei symud ac mae hefyd yn rhoi cyfle i fwynhau ychydig o ymarfer corff,” meddai.
“Mae wedi bod yn amser ers i ni allu dod o gwmpas yma oherwydd Covid, felly mae’n braf ein bod ni’n gallu mynd yn ôl allan a gwella’r amgylchedd.
“Mae popeth rydyn ni’n ei godi yma yn mynd i gael ei ailgylchu. Mae defnydd cynhyrchiol yn cael ei wneud o’r hyn rydyn ni’n ei gasglu, felly mae hwn yn ddigwyddiad da yn gyffredinol.”
Mynegodd Chris ei edmygedd o waith caled Colin ar yr ystâd.
“Mae Colin yn ffrind da i mi ac yn rhywun rydw i wedi’i adnabod ers amser maith,” meddai.
“Mae’n ymwneud â llawer o’r gwaith da sy’n digwydd ar y Fron.
“Mae’n dangos llawer o angerdd dros y gymuned y mae’n byw ynddi. Pryd bynnag mae unrhyw beth yn digwydd ar y Fron, mae o yno.”
Canmolodd Chris, a wasanaethodd ar fwrdd Cartrefi Conwy am naw mlynedd, y gwaith y mae’r sefydliad yn parhau i’w gyflawni ar yr ystâd.
Mae llwyddiannau allweddol Cartrefi Conwy wedi cynnwys adnewyddu eiddo a rhoi bywyd newydd i’r ganolfan gymunedol.
“Mae llawer o ymdrech wedi mynd i mewn i wella’r ystâd a’r tai,” ychwanegodd Chris.
“Maen nhw wedi gweithio’n galed i gefnogi’r gymuned, gan gynnwys trwy adnewyddu’r ganolfan gymunedol.
“Rwy’n credu bod y preswylwyr yn gwerthfawrogi’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud.”
Gyda thua wyth bag wedi’u llenwi â sbwriel, canmolodd Nerys effaith gadarnhaol y gweithgareddau codi sbwriel.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i sicrhau bod yr ystâd yn edrych yn lân ac yn daclus,” meddai.
“Gwnaeth Colin a’r tenantiaid eraill a gymerodd ran gyfraniad mawr, yn enwedig Sharon Batterbee a gasglodd dri bag llawn o sbwriel.
“Rydym yn awyddus i gynnal digwyddiadau tebyg ar ein hystadau tai eraill.
“Maen nhw’n rhoi cyfle i bobl fynd allan, gweld pobl eraill, cael rhywfaint o ymarfer corff a helpu i chwarae rhan wrth gadw’r gymuned mor lân a thaclus â phosib.”