Mae teyrngedau twymgalon wedi’u talu i’r “ysbrydoliaeth” y tu ôl i furlun newydd syfrdanol mewn ystâd dai a fu farw cyn iddo gael ei ddadorchuddio.
Teulu’r arlunydd lleol Kevin Stonehouse oedd y gwesteion anrhydeddus mewn seremoni arbennig ar ystâd Tre Cwm yn Llandudno.
Mae’r murlun lliw llachar yn ganlyniad partneriaeth amlasiantaeth lwyddiannus sydd wedi gweddnewid y wal derfyn o amgylch yr ystâd ar un o’r ffyrdd allweddol i mewn i dref Llandudno.
O’r geifr Kashmiri enwog, y gwnaeth eu campau digywilydd yng nghanol y dref yn ystod y cyfnod clo gipio’r penawdau ledled y byd, i Alys yng Ngwlad Hud, y Gogarth a glan y môr, mae treftadaeth Llandudno a mannau mwyaf adnabyddus yr ardal i gyd yn cael eu dathlu yn y murlun.
Ymhlith y rhai a fu’n rhan o’r prosiect dan arweiniad y gymuned yr oedd Gweithredu Diwylliannol Llandudno (CALL) ac Oriel Mostyn, cymdeithasau tai Cartrefi Conwy a Tai Gogledd Cymru, ynghyd â phreswylwyr yr ystâd ac arweinwyr cymunedol.
Rhoddwyd llawer o’r clod am y dyluniad terfynol i Kevin Stonehouse, un o breswylwyr Tre Cwm, a roddodd y sgrôl i artist preswyl yr ystâd, Kristin Luke, a ysbrydolodd y cynnyrch terfynol.
Yn anffodus, bu farw Kevin yn 65 oed ym mis Mai ar ôl salwch byr.
Mewn seremoni deimladwy i nodi dadorchuddiad swyddogol y murlun, dathlwyd cyfraniad sylweddol y tad i dri i’r prosiect.
Cafwyd cymeradwyaeth wresog i gofio amdano wrth i deulu Kevin, arweinwyr prosiect a phreswylwyr Tre Cwm ymgynnull i gofio’n annwyl am ei gymeriad caredig a’i ddawn artistig.
Cyflwynwyd llun wedi’i fframio o’r waith celf y murlun gan Kristin i Pat Anthony, chwaer Kevin.
“Rwy’n gwerthfawrogi’r hyn maen nhw wedi’i wneud yn fawr,” meddai Pat. “Mae’n anrheg hyfryd iawn.
“Rydym yn hynod falch o’r hyn a wnaeth Kevin. Roedd wrth ei fodd yn paentio ac roedd yn falch o ystâd Tre Cwm.
“Byddai wedi bod wrth ei fodd cael bod yma ar gyfer y digwyddiad hwn ac wedi gweld sut mae’r paentiad yn edrych ar y wal.
“Rydym i gyd yn gweld eisiau Kevin yn fawr. Ond mae’n braf gweld cymaint y mae pobl yn gwerthfawrogi’r hyn a wnaeth.”
Mae Angie O’Grady, aelod o Gyngor Tref Llandudno a wasanaethodd fel Maer Llandudno rhwng 2019 a 2021, wedi bod yn gefnogwr amlwg i’r prosiect.
Canmolodd ymdrechion Kevin wrth ei gwneud hi’n bosibl i’r murlun gael ei gwblhau.
“Mae’r gwaith y mae Kevin wedi’i wneud ar y prosiect hwn yn golygu y bydd yn mynd lawr mewn hanes,” meddai. “Ni fydd byth yn cael ei anghofio.
“Roedd Kevin yn ddyn caredig a gofalgar. Byddai’n rhoi lifft i mi i’r bingo yn rheolaidd ac roedd bob amser yn helpu pobl ar yr ystâd.
“Mae colled fawr ar ei ôl ac mae’n ddrwg iawn gennym na all fod yma ar gyfer yr achlysur hwn.”
Roedd gan Kevin, a oedd wedi mynegi ei falchder yn gynharach eleni am y gwaith celf fyddai’n mynd ar y wal, berthynas waith arbennig o agos â Kristin.
Cyflwynodd y sgrôl iddi y llynedd, ar adeg pan oedd dyfodol y prosiect yn edrych yn ansicr yng nghanol pandemig Covid-19.
Dywedodd yr arlunydd a aned yn America fod Kevin wedi bod yn “gwbl allweddol wrth ddatgloi’r hyn oedd yn bosibl i’r wal” yn ystod cyfres o areithiau a roddwyd yng Nghlwb Golff cyfagos Maesdu.
“Mi wnaeth greu’r sgrôl ar adeg pan nad oedd fawr o obaith ar ôl,” meddai.
“Roedd yn amser digalon i bawb. Ond roedd yr hyn a wnaeth Kevin yn symbol o obaith.
“Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau eraill y gymuned am eu rhan yn y prosiect.
“Mae’n braf gweld cymaint o bobl rydw i wedi’u cyfarfod yn ystod y prosiect yn ôl efo’i gilydd yn y digwyddiad hwn.”
Roedd Sabine Cockrill, cyfarwyddwr CALL, yn rhan o’r ymdrechion i sicrhau arian ar gyfer y murlun.
Canmolodd y rhai oedd yn bresennol am “lwyddo i gael y prosiect enfawr hwn dros y llinell”.
Ychwanegodd Sabine: “Roeddem am achub ar y cyfle i dalu teyrnged i Kevin, y gwnaeth ei fraslun gwreiddiol helpu i ysgogi’r gwaith celf terfynol sydd ar y wal.
“Rwy’n credu ei fod yn deyrnged hyfryd i’w greadigrwydd a’i ddawn ei fod mewn lle mor amlwg yn y dref lle bu’n byw ar hyd ei oes.
“Rydym yn wirioneddol falch ein bod ni wedi ei adnabod ac yn gallu talu teyrnged iddo fel hyn.”
Canmolodd Sabine aelodau eraill o’r gymuned hefyd am eu creadigrwydd a’u syniadau yn ystod y broses hir, gan weithio ochr yn ochr â Kristin o dan enw’r prosiect ‘Y Wal yw ____’ er mwyn helpu i ddarganfod y defnydd gorau ar ei gyfer.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni roedd Byron Parry, 18 oed, un o breswylwyr Tre Cwm, sydd wedi gweithio’n agos gyda Kristin ac wedi ysgrifennu stori ffuglen wyddonol wedi’i gosod ar yr ystâd.
Dywedodd Byron, a ymunodd yn y seremoni gyda’i chwaer 12 oed, Elisha: “Mae’n braf gweld sut mae’r wal yn edrych rŵan.
“Rydym wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn ers amser hir ac mae’n dda bod y gwaith celf bellach ar y wal.
“Roedd Kevin yn ffrind i’n teulu. Gwnaeth waith da ac mae’n drist nad yw yma ar gyfer y digwyddiad hwn.”
Bydd y murlun, ynghyd â phanel dehongli, yn cael ei weld gan nifer fawr o fodurwyr bob dydd wrth iddynt deithio i mewn i Landudno o gyfeiriad Deganwy.
Mae Cartrefi Conwy wedi chwarae rhan bwysig yn adfywiad Tre Cwm, gan helpu i gryfhau ei enw da ers iddo gymryd drosodd rheolaeth yr ystâd.
Mae prosiectau llwyddiannus wedi cynnwys Cynllun Adfywio Amgylcheddol Tre Cwm, gyda Tre Cwm yn dod yr unig ystâd tai cymdeithasol yng Nghymru i ennill statws nodedig y Faner Werdd.
Dywedodd Owen Veldhuizen, rheolwr adfywio cymunedol gyda Cartrefi Conwy: “Mae wedi bod yn brosiect ysbrydoledig. Mae’r syniadau wedi dod o’r gymuned ac maen nhw wedi bod yn rhan fawr o’r broses ers y cychwyn cyntaf.
“Mae’n beth mor gadarnhaol i’r ardal gyfan. Bydd cannoedd o bobl yn dod heibio yma bob dydd ac yn ei weld.
“Mae wedi bod yn bartneriaeth dda iawn ac wedi cynnwys sawl sefydliad a nifer o grwpiau. Mae llawer o waith da wedi digwydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
“Cafwyd llawer o ymateb cadarnhaol i’r gwaith celf.”
Roedd Iwan Evans, o Tai Gogledd Cymru sy’n berchen ar y wal, yn aelod o grŵp llywio’r prosiect.
“Rydym yn falch iawn gyda’r canlyniad terfynol,” meddai.
“Dyma un o’r prif lwybrau i mewn i Llandudno a bydd pobl yn gweld hyn wrth yrru heibio bob dydd.
“Mae wedi bod yn dda gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae wedi bod yn ymdrech tîm da.”
Aelod arall o’r grŵp llywio oedd yr arbenigwr artistig Alfredo Cramerotti, o oriel Mostyn.
“Rwy’n gyrru heibio yma bob dydd ac mae’n braf iawn gweld y gwaith celf bob tro,” meddai.
“Rydym wedi gweithio efo’n gilydd ers tro er mwyn helpu i wneud i hyn ddigwydd.
“Rydym yn hapus iawn bod y gwaith celf bellach ar y wal.”
Unveiling of Cwm mural. Llandudno; Picture Mandy Jones