Hwb cymunedol newydd mewn gorsaf drenau yn rhoi tenantiaid a cheiswyr gwaith nôl ar y cledrau

Hwb cymunedol newydd mewn gorsaf drenau yn rhoi tenantiaid a cheiswyr gwaith nôl ar y cledrau

Mae hwb cymunedol newydd wedi agor mewn gorsaf reilffordd er mwyn helpu pobl sy’n chwilio am waith a thenantiaid i roi eu bywydau nôl ar y cledrau.

Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru sydd y tu ôl i’r cynllun arloesol yng ngorsaf Llandudno, lle mae ystafell wag wedi’i hadnewyddu i’w defnyddio gan y gymuned leol.

yn cael ei rheoli gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy a’i his-gwmni dielw, Creu Menter, ac yn cael ei chefnogi gan fwy na £100,000 o arian Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth Cymru.Mae’r siop un stop

Defnyddir yr arian i redeg caffi swyddi a chymorth chwilio am waith, rhaglen hyfforddi Barod am Waith, cyngor ar leoliadau gwaith a gwirfoddoli, a sesiynau adeiladu sgiliau.

Mae hefyd yn gartref i Bartneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy, gan ymestyn eu cyrhaeddiad i Ynys Môn a chael mynediad at fwy o gymunedau yng Nghymru.

Agorwyd yr hwb newydd yn swyddogol gan Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd.

Opening of the new community Hub in Llandudno by Lesley Griffiths Minister for rural affairs and North Wales and Trefnydd. Pictured Lesley Griffiths Minister for rural affairs and North Wales and Trefnydd cuts the ribbon pictured with Lee Robinson Development Director for Mid, North rural Wales at TFW and Rob Holmes Head of government relations and public affairs TFW

Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd Ms Griffiths hefyd yn westai anrhydeddus yn lansiad swyddogol Creu Menter yn 2016 pan oedd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r prosiect arloesol hwn yng ngorsaf Llandudno yn rhan o’n rhaglen waith uchelgeisiol i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ac mae hefyd yn newyddion da i ganol y dref.

“Y nod yw dod â mannau mewn gorsafoedd trenau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio yn ôl i ddefnydd er budd pobl leol fel y gallan nhw barhau i chwarae rhan bwysig yng nghalon y gymuned. Mae’r orsaf yng nghanol Llandudno a bydd hyn hefyd yn helpu i annog pobl i ddefnyddio canol ein trefi.”

Roedd y cynllun ymhlith y cyntaf o’i fath yn Rhaglen Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd pennaeth rheilffyrdd cymunedol Trafnidiaeth Cymru, Hugh Evans:

“Mae’r hwb cymunedol newydd yng ngorsaf Llandudno yn rhagflaenydd llu o fentrau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru.

“Mae’r fenter hefyd yn hyrwyddo’r agenda bwysig sydd wedi’i hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac mae’r rheilffordd yn gyfrwng perffaith i gefnogi prosiectau cymunedol fel hyn.

“Budd mawr arall yw ein bod hefyd, trwy weithio gyda sefydliadau fel Cartrefi Conwy a Creu Menter, yn gwneud ein gorsafoedd yn llefydd mwy diogel a chroesawgar.”

Ymhlith y bobl gyntaf i elwa o’r hwb cymunedol newydd yr oedd Traci Demir.

Fel rhiant sengl, roedd Traci wedi bod allan o waith am bum mlynedd fel mam oedd yn aros gartref. Roedd am fynd yn ôl i weithio ar ôl i’w merch ddechrau’r ysgol, felly aeth Traci at Creu Menter i gael cymorth chwilio am swydd ac fel tenant gyda Cartrefi Conwy roedd hi’n gymwys ar gyfer yr Academi Gyflogaeth.

Roedd Traci yn llwyddiannus yn ei chyfweliad ac mae bellach yn Ofalwr Cymunedol gyda Cartrefi Conwy, ar leoliad 12 mis gyda chefnogaeth lawn gan fentor.

Dywedodd Sharon Jones, cyfarwyddwr partneriaethau Creu Menter:

“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth wych rydym wedi’i gael gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn sefydlu hwb cymunedol sy’n hwylus i bawb gael mynediad ato.

“Mae’r cyfleusterau sydd gennym yma yn ein helpu i gael effaith gadarnhaol a thrawsnewidiol ar fywydau’r bobl rydym yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar eu cyfer.

“Ein cenhadaeth fel menter gymdeithasol yw helpu pobl i gyflawni eu potensial fel y gallan nhw symud ymlaen a ffynnu.

“Y gobaith yw y bydd yr hwb cymunedol yma’n Llandudno yn gosod cynsail ar gyfer mentrau tebyg ledled Cymru.”

 

Opening of the new community Hub in Llandudno by Lesley Griffiths Minister for rural affairs and North Wales and Trefnydd.

Ychwanegodd Andrew Bowden, prif weithredwr Cartrefi Conwy:

“Mae ein cynllun busnes newydd yn amlinellu ein huchelgais i gydweithio a chreu cyfleoedd partneriaeth newydd sydd o fudd uniongyrchol i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac mae creu’r hwb newydd hwn yn enghraifft wych o sut y gall gweithio gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

“Rydym yn berchen ac yn rheoli tua 900 o gartrefi yn Llandudno a bydd yr hwb hwn yn darparu siop un stop hynod werthfawr i’n tenantiaid a’r gymuned ehangach.

“A dyna yw hanfod Cartrefi Conwy a Creu Menter – creu cymunedau i fod yn falch ohonynt.”

Category: Cartrefi News