Mae ein ymgyrch Arwyr Yma i Helpu yma, yn hyrwyddo arwyr lleol sydd wedi mynd y tu hwnt dros y flwyddyn diwethaf, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n tenantiaid a’r gymuned.
Dyma rai o ein Arwyr diweddaraf:
Fel un o Wirfoddolwyr Llês Creu Menter, mae Jon yn dewrhau ciwiau’r archfarchnad a’r fferyllfa yn rheolaidd er mwyn casglu a danfon nwyddau a meddyginiaeth i denantiaid Cartrefi Conwy nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi o ganlyniad i argyfwng COVID-19.
Mae wedi datblygu enw da am fynd uwchlaw a thu hwnt, gan gwblhau chwe thaith mewn un diwrnod yn ddiweddar! Rydym mor ddiolchgar ac mor falch o ddweud bod Jon yn rhan o’n tîm o wirfoddolwyr gwych.
![]()
Mae Mr a Mrs Hargreaves, ein tenantiaid o Cerrigydrudion wedi cael eu canmol gan eu cymdogion am eu gwaith caled a’u cefnogaeth ddiflino wrth helpu eraill dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Nid ydyn nhw erioed wedi rhoi’r gorau i helpu trwy gydol y pandemig hwn, gan sicrhau bob amser bod yr hen ferched yn iawn yn ein cymuned gyda galwadau ffôn dyddiol neu galw arnyn nhw. Maen nhw’n mynd allan i siopa i ni i’r prif archfarchnadoedd, a does dim byd yn ormod iddyn nhw.”
![]()