Ffatri cartrefi di-garbon newydd gwerth £1m yn rhoi hwb i ardal ddifreintiedig yn y Rhyl

Ffatri cartrefi di-garbon newydd gwerth £1m yn rhoi hwb i ardal ddifreintiedig yn y Rhyl

Mae menter gymdeithasol yn buddsoddi mwy na £1 miliwn mewn ffatri newydd i ateb y galw cynyddol am gartrefi di-garbon.

Mae Creu Menter wedi cymryd drosodd hen ddepo Travis Perkins yn Ffordd Cefndy yn y Rhyl ac yn gobeithio y gall hefyd chwarae rhan allweddol wrth adfywio ardal orllewinol y dref glan môr yn Sir Ddinbych.

Mae’r adeilad 10,000 troedfedd sgwâr wedi cael ei ailfodelu a bellach mae’n gwneud y fframiau pren ar gyfer cartrefi ynni effeithlon – gyda 50 eisoes yn cael eu hadeiladu a 100 arall ar y llyfr archebion.

Byddant hefyd yn gosod peiriant gwerth £80,000 i gynhyrchu posi-distiau ar gyfer strwythurau llawr a tho, yn cynnwys gwe fetel wedi’i rhyngosod rhwng dwy fflans bren y gellir edafu ceblau a phibellau drwyddi.

Yn ogystal â chael eu defnyddio yn eu cartrefi Passivhaus eu hunain, bydd Creu Menter hefyd yn eu gwerthu i ddatblygwyr eraill a chyflenwyr y diwydiant.

Y llynedd, enwyd Creu Menter fel y cwmni a dyfodd gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau 2020 Fast Growth 50 ac arwyddodd gontract pum mlynedd hefyd gyda chwmni Beattie Passive gan roi hawliau unigryw iddynt i’w system adeiladu arloesol Passivhaus yng ngogledd Cymru.

Ar ben hynny mae Creu Menter hefyd yn cynnal 4,000 eiddo presennol Cartrefi Conwy, gan helpu pobl leol, gan gynnwys tenantiaid, i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli. Mae ei elw masnachol yn cael ei ailfuddsoddi yn ei academi gyflogaeth hynod lwyddiannus Creu Dyfodol.

Bydd y datblygiad ffatri newydd yn creu naw swydd newydd i denantiaid a phobl leol ddi-waith ac fe’i gwnaed yn bosibl diolch i arian gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Creating Enterprise Factory in Rhyl; Pictured . Matt Hughes Picture Mandy Jones

Mae’n rhan o gynllun Cartrefi Conwy i adeiladu 1,000 o gartrefi gyda’r biliau ynni isaf posib ac yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi fforddiadwy, ynni effeithlon sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Cryfder y system fodiwlaidd yw y gellir ei ffurfweddu mewn gwahanol ffyrdd – yn amrywio o eiddo un ystafell wely un llawr i dai deulawr, saith ystafell wely ar gyfer teuluoedd.

Dywedodd Adrian Johnson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Cartrefi Conwy: “Pwrpas y datblygiad hwn yw cyflawni ethos Creu Menter oherwydd byddwn yn dod â phobl i mewn sy’n ddi-waith ac sydd bellaf o’r farchnad swyddi.

“Ein nod yw cael pobl leol, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy neu Gyngor Sir Dinbych, i gyflogaeth amser llawn a’u huwchsgilio.

“Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud hefyd yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi di-garbon net sy’n rhad i fyw ynddynt.

“Ar ôl y newyddion am filiau cyfleustodau yn codi i bawb eto ym mis Hydref, rwy’n credu ei bod yn bwysicach nag erioed i ni adeiladu’r cartrefi mwyaf ynni effeithlon â phosib yn y DU heddiw.”

Creating Enterprise Factory in Rhyl; Pictured Kickstart employees (L/R) Matt Hughes and Kieran Nolan. Picture Mandy Jones

Ategwyd y neges gan Andrew Bowden, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy.

Meddai: “Mae hyn yn rhan o’n datblygiad fel sefydliad. Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ehangu a chreu mwy o gyfleoedd masnachol i’r grŵp.

“Yn bwysig iawn hefyd, mae’n ymwneud â chreu mwy o swyddi a’r hyn sy’n hanfodol yma yw gweithio yn ardal Gorllewin y Rhyl, cymryd adeilad segur a oedd yn cael ei werthu gan Travis Perkins a rhoi bywyd newydd iddo.

“Mae’n ddyfodol cyffrous i’r ardal ac rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych ar sut y gallwn adnabod ac annog y rhai pellaf o’r farchnad swyddi sy’n lleol i’r ardal hon i gael y cyfleoedd hyn.

“Rydym eisiau cefnogi’r cyngor i adfywio’r ardal hon trwy fuddsoddi yn y datblygiad ffatri yma.

“Rydym eisoes yn codi 22 o gartrefi i’r awdurdod lleol yn nhref Dinbych, a’n gobaith yw adeiladu ar hynny i’r dyfodol ac rwy’n gobeithio y bydd y cyngor yn gweld hyn fel ymrwymiad i’w hardal ac i Sir Ddinbych.”

“Mae Creu Menter yn mynd o nerth i nerth ac mae’r arallgyfeirio yn galluogi’r grŵp i dyfu ac ail-fuddsoddi ein helw er budd ein tenantiaid.

“Mae ein hethos yn ymwneud â chreu cymunedau i ymfalchïo ynddynt a gobeithiwn y bydd y datblygiad hwn yn gwella Gorllewin y Rhyl mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych.”

 

Category: Cartrefi News