Er eu bod yn ymddangos yn ddigon dychrynllyd, doedd dim byd i boeni amdano pan wnaeth y Tyrannosaurus Rex a’r Velociraptor ddangos eu dannedd a rhuo, ac roedd pawb yn dotio at y babi Brontosaurus a’r Triceratops bychan.
Roedd y diwrnod yn llawn adloniant o’r dechrau i’r diwedd. Dychwelodd Tesni Jones, seren The Voice eleni yn ôl i’w chartref ym Mae Colwyn fel ein prif atyniad. Hefyd death y deuawd Britain’s Got Talent poblogaidd, Richard ac Adam i berfformio ochr yn ochr â chyflwynwyr Heart FM, Oli Kemp a Lois Cernyw.
Roedd yna gymaint o bethau i’w gwneud gan gynnwys drymio samba, dysgu sgiliau syrcas, dawnsio stryd a chreu llusernau. Roedd y Diwrnod Mawr Allan yn ffordd wych i barhau ein dathliadau pen-blwydd yn 10 oed â chi. Rydym yn diolch i bawb a ddaeth draw I wneud y diwrnod hwn mor arbennig.