Cartrefi Conwy wedi’i henwebu am hat-tric o wobrau nodedig

Cartrefi Conwy wedi’i henwebu am hat-tric o wobrau nodedig

Cartrefi Conwy yw’r unig sefydliad o Gymru sydd ar y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Tai y Deyrnas Unedig fydd yn cael eu cynnal yng Ngwesty’r Grosvenor yn Llundain ar y 1af o Fai.

Mae’r gymdeithas wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Hyfforddiant Cyflogaeth i Breswylwyr, Gwobr Sefydliad Llafur Uniongyrchol y Flwyddyn a Gwobr y Landlord Gorau i Bobl Hŷn.

Dywedodd y Prif Weithredwr Andrew Bowden: “Rydym wrth ein boddau i fod ar y rhestr fer mewn tri chategori yn fersiwn Tai y Deyrnas Unedig o’r Oscars, ac mae’n dysteb i ymroddiad ein staff bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod fel hyn. Byddwn yn croesi ein bysedd ar y noson.”

Ers iddi gael ei sefydlu yn 2008, mae cymdeithas dai Cartrefi Conwy wedi gwario £60 miliwn er mwyn sicrhau bod eu 3,800 eiddo yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a bellach mae wedi cychwyn ar brosiect pum mlynedd gwerth £30 miliwn i wneud mwy o welliannau.

Ar ben hyn i gyd, mae’r gymdeithas dai yn buddsoddi £30 miliwn fel rhan o strategaeth uchelgeisiol i adeiladu 250 o dai newydd erbyn 2020.

I baratoi’r ffordd, y llynedd creodd Cartrefi Conwy canolfan adeiladu gwerth £30 miliwn y flwyddyn mewn parc busnes newydd a godwyd ym Mochdre.

Roedd y datblygiad arloesol yn nodi cychwyn cynllunia’r gymdeithas dai ar gyfer prosiectau adnewyddu ledled gogledd Cymru.

Mae dau o’r chwe uned yn y parc busnes gwerth £1.7 miliwn, yn cael eu rhentu gan is-gwmni llwyddiannus Cartrefi Conwy, Creu Menter, sydd erbyn hyn yn cyflogi 57 o bobl gyda throsiant o £5.1 miliwn y llynedd.

Pan ddechreuodd weithredu yn 2015 y fenter gymdeithasol hon oedd y gyntaf o’i bath yng Nghymru.

Mae’n cyflenwi gwasanaeth cynnal a chadw cynlluniedig i’r 3,800 o eiddo sy’n cael eu rheoli gan Gartrefi Conwy ac mae’n darparu swyddi a chyfleodd hyfforddiant i denantiaid diwaith fel eu bod nhw’n medru mynd yn ôl i fyd gwaith.

Mae Creu Menter hefyd wedi cael cytundebau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bwyty Dylan’s yn Llandudno.

Mae’r sefydliad hefyd yn rhedeg academi gyflogaeth arloesol, sydd eisoes wedi helpu 14 o denantiaid diwaith i gael swyddi llawn amser, yn ogystal â darparu hyfforddiant i dros 200 o denantiaid sy’n chwilio am waith.

Un o fentrau diweddaraf Creu Menter yw ffatri tŷ modiwlaidd newydd yng Nghaergybi sy’n gwneud tai ynni isel gyda chostau rhedeg o £200 y flwyddyn yn unig.

Mae’r cyfleuster, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Penrhos, wedi gwneud ffrâm bren ar gyfer byngalo newydd mewn llai na thri diwrnod ac mae eisoes wedi derbyn archebion ar gyfer dros 40 o dai.

Mae lle i gredu taw’r fenter hon yw’r gyntaf o’i bath gan fenter gymdeithasol yng Nghymru, ac mae wedi creu pedair o swyddi newydd, gyda mwy ar y gweill wrth i’r sefydliad dyfu.

Dywedodd Adrian Johnson, rheolwr gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol grŵp Cartrefi Conwy: “Mae’r syniad yn syml, mae angen i Gartrefi Conwy gynnal ei phortffolio eiddo ac mae Creu Menter yn medru darparu ystod o wasanaethau gan ddarparu swyddi go iawn a hyfforddiant ar gyfer cymunedau sy’n anodd i’w cyrraedd.

“Mae mwy o fusnes yn cael ei ennill trwy dendrau cystadleuol gan gleientiaid o’r sectorau preifat a cyhoeddus, ac mae 3% o incwm pob llif gwaith yn cyfrannu tuag at gyllido’r Academi Gyflogaeth. Felly, po fwyaf rydym yn ei wneud, po fwyaf o gyfleodd gwaith y gallwn eu cynnig.”

Roedd Gwynne Jones, rheolwr gyfarwyddwr tai Cartrefi Conwy, yn arbennig o falch bod y cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Landlord Gorau i Bobl Hŷn.

Meddai: “Roedd ein datblygiad diweddaraf, Cysgod y Gogarth, yn esiampl o sut y gall adeilad gefnogi anghenion ein tenantiaid hŷn -anghenion sy’n newid yn gyson.

“Cafodd y datblygiad hwn, sy’n werth £4 miliwn, ei adeiladu i safon ‘Tai Gydol Oes’ felly wrth i anghenion iechyd a symudedd ein preswylwyr newid gallwn addasu’r eiddo er mwyn sicrhau bod y lle yn gweddu i’w hanghenion. Mae’r cynllun wedi ennill achrediad Gwobr Platinwm Visibly Better yr RNIB.

“Y llynedd mi wnaethon ni wario £400,000 ar addasiadau i sicrhau bod tai ein tenantiaid hŷn yn addas iddyn nhw.

“Yn ychwanegol, rydym wedi ennill gwobr platinwm yr RNIB ar gyfer ein canolfan gymunedol yn Parkway, y gyntaf yng Nghymru.

“Mae gennym adnodd ymroddedig, sef ein Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn, sydd â chyfrifoldeb dros hybu a grymuso gymaint o’n tenantiaid â phosib er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu cyfranogi yn eu cymunedau.”