Mae Cartrefi Conwy yn falch iawn o fod yn noddi Pêl-fasged Cadair Olwyn Gogledd Cymru eleni.
Cydnabyddir Pêl-fasged Cadair Olwyn Gogledd Cymru (WBNW) fel y prif gorff ar gyfer pêl-fasged cadair olwyn yn rhanbarth Gogledd Cymru. Maent yn sefydliad gwirfoddol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o glybiau lleol sy’n gweithio ar y cyd i ddatblygu allfeydd cyfranogi a pherfformio.
Mae pêl-fasged cadair olwyn yn gamp hynod gynhwysol sydd â’r potensial i ymgysylltu â phobl anabl sydd mewn perygl o ynysu, tlodi cymdeithasol ac iechyd gwael.
Rydym yn edrych ymlaen at rannu cyfleoedd i chi ein tenantiaid gymryd rhan cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny a hefyd gwylio gêm neu ddwy.