Fel rhan o Wythnos Diogelwch Nwy 2020 ac i dynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch nwy, mae Gas Safe Register wedi rhyddhau ffilm fer Ripple Effect. Mae’r ffilm yn adrodd hanes cymdogaeth gyffredin, yn ystod noson gyffredin pan fydd digwyddiad anghyffredin yn digwydd – mae ffrwydrad nwy yn rhwygo trwy dŷ teras gyda chanlyniadau dinistriol. Ond beth achosodd hynny? Gwyliwch y ffilm fer a dewch o hyd i ragor o wybodaeth trwy wefan Gas Safe Register.
https://www.gassaferegister.co.uk/therippleeffect/