Mae tri chyn-ddisgybl wedi chwarae rhan allweddol mewn cynllun £5.2 miliwn i ailddatblygu eu hen ysgol yn dai arbenigol – gan roi hwb mawr i’r economi leol yn y broses.
Mae’r datblygiad gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy yn anadlu bywyd newydd i safle Ysgol Maelgwn, yng Nghyffordd Llandudno, a gaeodd bron i bedair blynedd yn ôl pan symudodd y disgyblion i ysgol newydd sbon, Ysgol Awel y Mynydd.
Dyma’r prosiect mwyaf cymhleth y mae Cartrefi Conwy wedi gweithio arno hyd yn hyn oherwydd bod yr hen ysgol, a agorodd yn 1907, o bwys pensaernïol a bu’n rhaid cadw llawer o’r nodweddion gwreiddiol.
Un o’r triawd o gyn-ddisgyblion yw Claire Lister, pennaeth gwasanaethau integredig oedolion a chymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a weithiodd yn agos gyda Cartrefi Conwy i lunio cynllun ar gyfer y safle.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gwmni lleol Brenig Construction, ac mewn cyd-ddigwyddiad arall bu cyd-reolwr gyfarwyddwr y cwmni adeiladu, Howard Vaughan, yn ogystal ag Adrian Johnson, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau masnachol Cartrefi Conwy hefyd yn ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae’r cynllun, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol gwerth £2.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ar fin cael ei gwblhau ac mae disgwyl i’r tenantiaid cyntaf symud i mewn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yn ôl cwmni Brenig, mae tua 90 y cant o’r 100 o bobl sydd wedi gweithio ar y prosiect yn dod o sir Conwy.
Crëwyd swyddi newydd ar gyfer peiriannydd dan hyfforddiant a syrfëwr meintiau dan hyfforddiant, tra ymunodd pedwar prentis â’r prosiect trwy’r Academi Gyflogaeth a sefydlwyd gan is-gwmni Cartrefi Conwy, Creu Menter.
Mae’r prosiect yn rhan o strategaeth gwerth £100 miliwn y gymdeithas dai i adeiladu 1,000 o gartrefi ynni effeithlon dros y 10 mlynedd nesaf.
Yn gyffredinol, mae 27 o gartrefi newydd wedi cael eu dylunio’n benodol i ddiwallu anghenion tai lleol.
Mae’r hen ysgol yn adeilad rhestredig Gradd II ac mae llawer o’r nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys y gwaith teilsio, y llefydd tân trawiadol, y lloriau parquet a’r nenfwd pren cromennog ysblennydd, wedi’u cadw.
Mae ystafelloedd dosbarth y prif adeilad wedi’u trosi’n 10 fflat byw’n annibynnol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a chorfforol.
Mae adeilad ystafell ddosbarth ar wahân, sydd hefyd â statws rhestredig Gradd II, wedi cael ei drawsnewid yn fyngalo pum ystafell wely ar gyfer teulu, gan gynnwys un aelod sydd ag anabledd.
Mae gweddill yr eiddo yn gymysgedd o dai, byngalos a fflatiau sy’n darparu tai fforddiadwy, gan gynnwys llety i bobl ag amrywiaeth o anghenion.
Dywedodd Howard Vaughan: “Roeddwn i wrth fy modd yn Ysgol Maelgwn ac mae gen i atgofion hapus iawn o fynd yno. Roedd Adrian flwyddyn neu ddwy yn hŷn na fi ac roedd Claire flwyddyn yn iau.
“Mi wnaeth llawer o atgofion lifo’n ôl pan ddechreuon ni weithio ar y safle gyntaf – gan fynd â mi yn ôl tua 30 mlynedd.
“Y peth cyntaf wnes i oedd edrych o gwmpas yr ystafelloedd dosbarth lle roeddwn i wedi cael fy nysgu, ac mi wnes draw i gael golwg ar swyddfa’r pennaeth hefyd.
“Rwy’n teimlo’n falch ac yn freintiedig o fod yn rhan o’r prosiect sy’n anadlu bywyd newydd i’r safle yma.”
Roedd yn deimlad a adleisiwyd gan Claire Lister a arferai fyw gyferbyn ag Ysgol Maelgwn a fynychwyd hefyd gan ei thri phlentyn.
Meddai: “Mae’r ysgol wedi chwarae rhan bwysig iawn yn y gymuned a’r hyn sy’n wych ydi y bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.
“Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y broses ymgynghori a chredaf fod pobl yn gweld ein bod yn ceisio darparu tai arbenigol i bobl ag anghenion ac nid ar gyfer tai prif ffrwd. Mae’n mynd i gael ei roi i bwrpas da iawn.
“Fe wnaethon ni weithio’n agos iawn efo Brenig Construction a Cartrefi Conwy. Mae hi wedi bod yn bartneriaeth go iawn ac maen nhw wedi gwneud gwaith gwych oherwydd mae’n edrych yn hyfryd.
“Fel rhywun a aeth i’r ysgol ac sydd wedi bod ar fwrdd y llywodraethwyr mae hyn yn gwireddu breuddwyd i mi. Mae’n braf iawn ei weld yn digwydd.
Roedd Adrian Johnson yr un mor falch o’r ffordd yr oedd pethau wedi troi allan.
Meddai: “Mae’n anhygoel bod yn rhan o brosiect fel hwn i greu gwaddol parhaol i’r safle yma yng nghanol Cyffordd Llandudno.
“Mae’r plant wedi symud ymlaen i ysgol newydd sbon ac rydym wedi gallu adfywio’r safle er budd cymdeithasol, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Brenig Construction.
“Rydyn ni’n diwallu angen lleol oherwydd mae’r cartrefi hyn ar gyfer pobl leol ag anghenion amrywiol, felly mae’n beth gwerth chweil i’w wneud.
“Yn y broses rydyn ni wedi creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi wrth roi hwb i’r economi leol.”
Ychwanegodd David Kelsall, y cyfarwyddwr cynorthwyol datblygu a thwf yn Cartrefi Conwy: “Roedd yn bwysig fel rhan o’r cynllun hwn i warchod treftadaeth a hanes pensaernïol a chymdeithasol yr ardal.
“Ar yr un pryd, roedd yn hanfodol cael rhywbeth a oedd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol a fydd yn parhau dros amser.
“Roedd gwarchod hen adeilad yr ysgol yn anoddach na chodi adeilad newydd oherwydd ei fod yn adeilad rhestredig Gradd II.
“Y darn clyfar oedd gwneud y gwaith mewn ffordd gydymdeimladol ond gan ymgorffori gwasanaethau a thechnoleg fodern ar yr un pryd.
“Yr hyn rydyn ni wedi’i ddarparu yw cymuned gymysg ynddo’i hun a fydd yn dod yn rhan o’r gymuned ehangach. Mae’n foddhaol iawn ei weld yn dwyn ffrwyth.”
Ychwanegodd prif weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mae hwn yn ddatblygiad blaenllaw yn sir Conwy ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r awdurdod lleol i adnabod anghenion eu cleientiaid.
“Rydyn ni’n creu cymuned newydd a bydd gan y bobl sy’n byw yma’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i ddiwallu eu hanghenion.”
“Mae’r lleoliad yn ddelfrydol oherwydd ei fod hefyd yn agos at Ganolfan Marl y mae’r cyngor yn berchen arno. Maen nhw’n darparu cefnogaeth a chymorth yn ogystal â llety i unigolion.”