Mae geifr gwyllt a ddenodd sylw ledled y byd gyda’u crwydro digri ar hyd strydoedd gwag Llandudno yn ystod y cyfnod clo yn cael eu hanfarwoli mewn gwaith celf newydd trawiadol.
Bydd y wal derfyn o amgylch ystâd Tre Cwm yn y dref yn cael gweddnewidiad lliwgar, ar ôl cael caniatâd cynllunio i osod murlun newydd trawiadol arni.
Mae’r gwaith celf yn portreadu llawer o’r pethau sy’n fwyaf cysylltiedig â Llandudno, gan gynnwys geifr Kashmiri a ddaeth yn adnabyddus ledled y byd ar ôl crwydro lawr i ganol y dref y llynedd a bwyta beth bynnag oedd yn cymryd eu ffansi.
Bydd y murlun yn cael ei weld gan filoedd o fodurwyr bob dydd wrth iddynt yrru mewn i Landudno o gyfeiriad Deganwy, gan estyn croeso i’r dref yn yr un modd ag arwydd enwog ‘Croeso i Landudno’ sy’n cyfarch ymwelwyr sy’n cyrraedd o gyfeiriad Bae Penrhyn.
Mae’r artist Kevin Stonehouse, sydd wedi byw ar yr ystâd am y rhan fwyaf o’i oes, wedi darlunio’r geifr yn eu hamgylchedd arferol ar y Gogarth.
Yn cyd-fynd â’r geifr ar y gwaith celf y mae Alys yng Ngwlad Hud, cymeriad eiconig arall sydd â chysylltiadau lleol, a golygfeydd cyfarwydd eraill fel y promenâd, llethr sgïo a thramffordd y dref.
“Mae’r geifr yn rhan fawr o dreftadaeth y dref. Roedd hi’n braf gallu eu cynnwys,” meddai Kevin, 65 oed.
“Roeddwn hefyd yn hapus i allu cynnwys Alice in Wonderland. Yn aml, rwyf wedi ei rhoi mewn paentiadau a phenderfynais y byddai’n iawn canfod lle iddi ar y murlun yma.
“Rwyf wedi ceisio cynnwys llawer o wahanol bethau y mae pobl yn eu cysylltu â’r dref. Mae’n dref mor brydferth.”
Wrth siarad am ei ddyluniad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y murlun, dywedodd Kevin: “Rwy’n gyffrous wrth feddwl y bydd y gwaith celf yn mynd ar y wal cyn bo hir ac rwy’n teimlo’n falch iawn.
“Mi fyddwn wedi hoffi pe bai fy rhieni’n dal yn fyw i’w weld. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’n edrych ar y wal.”
Mae derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynrychioli penllanw dwy flynedd o waith caled gan breswylwyr yr ystâd, fu’n gweithio gyda’r artist preswyl Kristin Luke, menter gymdeithasol Culture Action Llandudno (CALL), Oriel MOSTYN, cymdeithas dai Cartrefi Conwy a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, sy’n berchen y wal.
Mae hefyd yn nodi cam pwysig arall yn adfywiad yr ystâd, yn dilyn rhaglen adfywio helaeth a llwyddiannus.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ystâd 400 o dai wedi’i thrawsnewid gan weddnewidiad £4.3 miliwn gan Cartrefi Conwy er mwyn uwchraddio’r eiddo a rhaglen gwelliannau amgylcheddol enfawr.
Gweithiodd Kristin Luke, a benodwyd gan bartneriaid y prosiect, yn agos gyda phreswylwyr ar y prosiect o’r enw ‘Y Wal yw _____’ (‘The Wall is _____’) i archwilio’r ffordd orau o greu gwaith celf ar gyfer y wal.
Trefnodd broses ymgysylltu hir gyda thros 25 o weithgareddau i annog cyfranogiad preswylwyr, gan gynnwys cael fan gelf ar yr ystâd am wythnos a theithiau cerdded natur.
Yn ystod y broses hon daliwyd llygaid y preswylwyr gan syniadau a gyflwynwyd gan Kevin, sy’n dad i dri – ac sydd â gradd mewn Celf ac sydd wedi gweithio fel peintiwr ac addurnwr.
Tynnodd ar ei ddoniau i gynhyrchu sgrôl liwgar yn portreadu bywyd Llandudno, ond cafodd ei synnu gan y derbyniad gwresog a gafodd ei syniadau.
“Treuliais ychydig ddyddiau yn gweithio arno gyda’r bwriad o daflu ychydig o syniadau bras at ei gilydd. Ond roedd pobl wrth eu boddau ac eisiau ei ddefnyddio ar gyfer y wal,” meddai Kevin.
“Rydw i wedi byw yma ers amser hir ac rwy’n adnabod cymaint o bobl ar yr ystâd. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau gweld yr hyn rydyn ni wedi’i greu unwaith y bydd i fyny ar y wal.”
Disgrifiodd Kristin y profiad fel un oedd yn “newid bywyd”, gan iddi fwynhau bwrw ati ac ymgysylltu â phreswylwyr a helpu i sicrhau y byddai’r canlyniad terfynol yn cwrdd â’u dymuniadau.
“Mae hon wedi bod yn daith hir ac mae’n gyffrous iawn ein bod ni bellach wedi cyrraedd y cam hwn,” meddai Kristin, sy’n hanu o Los Angeles yn wreiddiol ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ger Betws-y-Coed.
“Gobeithio y bydd cael rhywbeth fel hyn ar y wal yn gwneud pobl yn ymwybodol o’r gymuned sy’n byw y tu ôl iddi. Rwy’n gobeithio ei bod yn creu canfyddiad cadarnhaol pellach o’r ystâd.
“Mae wedi bod yn bleser cyfarfod â’r preswylwyr, rhai nad ydyn nhw fel arfer yn cymryd rhan mewn pethau fel hyn. Mae yna lawer o bobl wych ar yr ystâd, ac maen nhw i gyd wedi bod eisiau cymryd rhan.”
Rhoddodd Kristin glod arbennig i Kevin, gan ganmol ei ddychymyg wrth feddwl am y dyluniad terfynol.
“Mae cydweithredu efo Kevin wedi bod yn brofiad gwych. Mae wedi bod yn gymaint o bleser gweithio efo fo,” meddai.
“Mi ddangosodd Kevin y sgrôl anhygoel hon i mi, a ddaeth yn waith celf olaf i’w roi ar y wal. Cafodd ei ddangos i breswylwyr ac mi wnaeth daro tant gyda llawer ohonyn nhw ac roedden nhw’n gytûn mai dyma ddylai fod ar y wal.”
Mae Kristin hefyd wedi bod yn goruchwylio ffilmio er mwyn helpu i gofnodi dilyniant y prosiect.
Bydd panel dehongli yn cyd-fynd â’r murlun sy’n cynnig gwybodaeth am y prosiect ac yn dathlu treftadaeth yr ystâd, gyda’r preswylwyr unwaith eto yn rhannu syniadau am yr hyn y gellid ei gynnwys.
Roedd Sabine Cockrill, cyfarwyddwr CALL, yn ymwneud â helpu i ddod o hyd i arian ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys gwneud cais llwyddiannus am grant i Sefydliad Paul Hamlyn.
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am yr hyn sy’n digwydd yno,” meddai Sabine.
“Rhaid i lawer o’r clod fynd i Kristin am y gwaith y mae hi wedi’i wneud ar ôl gwrando ar ddymuniadau’r preswylwyr. Mae hyn wedi golygu cynnwys y gymuned a’i gwneud yn siŵr mai dyma beth oedden nhw am ei weld, yn hytrach na chael rhywbeth o’r tu allan wedi’i orfodi arnyn nhw.
“Mae’r wal mewn lleoliad strategol iawn, gyda llawer o bobl yn gyrru neu’n cerdded heibio iddo.”
Tre Cwm oedd yr ail ystâd tai cymdeithasol yng Nghymru i dderbyn statws arbennig Baner Werdd – yr ystâd gyntaf oedd Parc Peulwys yn Llysfaen sydd hefyd yn cael ei rheoli gan Cartrefi Conwy.
Yn awr mae cyffro pellach ynglŷn â’r budd posib a ddaw yn sgîl y murlun.
Dywedodd Owen Veldhuizen, rheolwr adfywio cymunedol gyda Cartrefi Conwy: “Rydym yn credu y bydd hyn yn rhywbeth cadarnhaol i’r dref a’r ardal gyfagos.
“Mae’r gwaith celf yn hyfryd ac yn helpu i gyfleu’r hyn sydd gan Landudno i’w gynnig. Mae llawer o waith da wedi’i wneud i ymgysylltu â phreswylwyr, sydd wedi teimlo eu bod yn rhan o’r prosiect.
“Bydd llawer o bobl yn gweld hyn pan fyddan nhw naill ai’n gyrru heibio iddo neu’n cerdded yn yr ardal ac rydym yn gobeithio y byddan nhw wedyn am ddod i edrych arno’n agosach.”
Dywedodd Iwan Evans, cydlynydd cyfranogiad tenantiaid Tai Gogledd Cymru: “Ni sy’n berchen ar y wal ac rydym yn falch o’r hyn sy’n mynd i fynd arno. Rwy’n credu y bydd y murlun yn fuddiol i’r ardal ac mae’r wal mewn lleoliad amlwg.
“Mae hon wedi bod yn ymdrech tîm sydd wedi cynnwys ni ein hunain, Cartrefi Conwy, yr artistiaid, aelodau’r gymuned a CALL.
“Mae wedi bod yn braf gweld cymaint o ymgysylltu cymunedol sydd wedi digwydd yn ystod y prosiect.
“Mae’n braf bod y gymuned wedi chwarae cymaint o ran.”
Y gobaith yw y bydd y gwaith gosod yn cychwyn yn fuan ac y bydd y murlun i’w weld o’r gwanwyn, gyda bwriad hefyd i gynnal seremoni ddadorchuddio.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect ewch i www.thewallis.cymru