Neuadd Goffa yn cael ei hadnewyddu’n sylweddol

Neuadd Goffa yn cael ei hadnewyddu’n sylweddol

Mae neuadd goffa a adeiladwyd i goffáu meirw pentref yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael ei hadnewyddu’n sylweddol gan gymdeithas dai a grŵp adeiladu.

Adeiladwyd Sefydliad y Neuadd Goffa yng Nghyffordd Llandudno yn y 1920au gan ddefnyddio brics a gludwyd o Fflandrys, yng Ngwlad Belg, lleoliad llawer o frwydrau mawr y rhyfel, a gosodwyd ei charreg sylfaen yn 1927 gan Lloyd George.

Cyflwynwyd trywel arian iddo gan Frenhines Rhosyn y flwyddyn 1927, Olga Hughes, ac yn 1928 cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ar Ddydd Gwener y Groglith gyda chyn-filwr lleol, Thomas ap Rhys, yn torri’r rhuban.

Mae wedi parhau’n ganolbwynt i’r gymuned ond roedd gwir angen ei hadnewyddu nes i Cartrefi Conwy a Brenig Construction ddod i’r adwy.

Maent wedi gwneud gwaith adnewyddu gwerth £10,000 gydag ystafell gotiau newydd i’r anabl a choridor wedi’i ehangu i wneud yr adeilad hanesyddol, y mae ei gofeb hefyd yn cynnwys enwau’r rhai a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Brenig Construction and Cartrefi Conwy Llandudno Junction Memorial Hall ; Picture Mandy Jones

Brenig Construction and Cartrefi Conwy Llandudno Junction Memorial Hall ; Picture Mandy Jones

Dywedodd Rheolwr Adfywio Cymunedol Cartrefi Conwy, Owen Veldhuizen: “Mae gennym hanes o fynd y tu hwnt i ddarparu tai cymdeithasol ac adeiladu tai fforddiadwy newydd gan ddod â buddion cymunedol i’r mannau lle rydyn ni’n gweithredu hefyd.

“Dyma ethos rydyn ni’n ei rannu gyda’n contractwr, Brenig Construction, ac rydym yn ceisio gwneud hynny lle bynnag mae gennym gontract mawr newydd fel y gwaith ailddatblygu diweddar rydym wedi’i wneud yn hen ysgol gyfagos Ysgol Maelgwn a oedd yn un o’n prif gynlluniau.

“Mae gan Brenig y sgiliau i gynllunio a chyflawni cynllun fel hwn a fyddai’n cymryd llawer mwy o amser i grŵp cymunedol ei drefnu ac mae hon yn enghraifft berffaith ohonom yn gweithio gyda grŵp cymunedol lleol i gyflawni rhywbeth yr oedd ei angen arnyn nhw.”

Dywedodd Howard Vaughan, Cyd Reolwr Gyfarwyddwr Brenig Construction: “Lle bynnag rydyn ni’n gweithio rydyn ni’n hoffi gallu defnyddio ein harbenigedd i ddarparu rhywfaint o werth ychwanegol i’r ardal leol.

“Un o Glan Conwy ydw i, sydd ychydig i lawr y ffordd, ac rydw i wedi byw yng Nghyffordd Llandudno ond doeddwn i ddim yn gwybod am y Neuadd Goffa sy’n gyfleuster gwirioneddol wych i’r pentref ac yn un sydd wedi cael llawer o ddefnydd ers bron i gan mlynedd.

“Gobeithio y bydd y gwaith rydym wedi’i wneud yma drwy gyfrannu llafur a deunyddiau a chan ein contractwyr lleol, Rendtek Ltd, A Pitman Plumbing & Heating Services, yr addurnwr Ant Moore, Base Architecture & Design ac OR Electrical Ltd, yn sicrhau y bydd y Neuadd yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r gymuned am lawer mwy o flynyddoedd.”

Defnyddir y Neuadd, ar Rodfa Penrhos, saith diwrnod yr wythnos ar gyfer gweithgareddau mor amrywiol â hyfforddi cŵn, dramâu amatur a dawnsio morris yn ogystal â sesiynau cadw’n heini, tylino babanod, grwpiau plant, partïon a digwyddiadau cymunedol gan gynnwys Gwasanaeth Dydd y Cadoediad. a gosod torch goffa bob mis Tachwedd.

Dywedodd Trysorydd y Neuadd, Pat Hart: “Mae’n adeilad gwych ac mae llawer ohonom yn cofio dod yma gyntaf pan oeddem yn blant.

“Ond roedd gwir angen y cyfleusterau hyn oherwydd mae gennym bobl anabl a defnyddwyr cadeiriau olwyn sydd eisiau defnyddio ein cyfleusterau a rŵan maen nhw’n gallu.

“Nid mater o ariannu’r gwaith yn unig oedd hyn oherwydd ni fyddem wedi gwybod ble i ddechrau trefnu hynny ond mi wnaethon nhw ddatrys pob anhawster posib – ac mi wnaeth Brenig hyd yn oed anfon pensaer yma i roi cychwyn ar bethau.

“Rŵan rydyn ni’n gobeithio clywed gan fwy o grefftwyr lleol oherwydd mae angen ychydig o help arnom i addurno’r adeilad.”

Category: Cartrefi News