Mae stad o dai sy’n cael adnewyddiad gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei hailenwi ar ôl gofalwr arwrol gyda chalon aur a achubodd fywydau dau berson.
Bu farw Phil Evans yn sydyn yn ei gwsg bron i ddwy flynedd yn ôl dim ond ychydig wythnosau yn brin o’i ben-blwydd yn 69 oed, ond bydd ei enw bellach yn parhau yn Llanrwst lle’r oedd wedi gwneud cymaint o ffrindiau oes.
Yn eu plith mae Emyr Hughes, swyddog tai gyda chymdeithas tai, Cartrefi Conwy, a oedd yn un o nifer o gydweithwyr a gafodd y syniad o enwi’r stad ar ôl y dyn y bu’r trigolion yn edrych i fyny ato ac yn galw arno mewn argyfwng.
Dymchwelodd Cartrefi Conwy floc o 30 fflat deulawr a fflatiau fel rhan o’r gwaith adnewyddu gwerth £4.3 miliwn ar stad o’r 1970au, a elwid yn wreiddiol yn Glanrafon, gan godi 14 o gartrefi modiwlaidd di-garbon tair a phedair ystafell wely newydd.
Mae chwe bloc cyfagos o 36 o fflatiau hefyd wedi cael eu gwella’n sylweddol i roi gwedd fodern newydd sbon iddynt.
Rhoddwyd y syniad o alw’r stad yn Rhodfa Phil Evans i bleidlais gan Cartrefi Conwy a chytunodd y trigolion.
Llanrwst
Cartefi Conwy Housing Development
Glanrafon estate renamed Rhodfa
Phil Evans,
Vince Haycox, caretaking and building services manager, and housing officer Emyr Hughes hold up the new temporary signage.
Roedd ei weddw, Rose, wrth ei bodd yn clywed y newyddion. Bu’r ddau yn gariadon ers eu plentyndod ac wedi bod yn edrych ymlaen at ddathlu eu priodas aur.
Yn ei angladd, ffurfiodd tîm cynnal a chadw eiddo Cartrefi Conwy osgordd er anrhydedd i’r tad i ddau o blant.
Er gwaethaf niferoedd cyfyngedig yn yr amlosgfa oherwydd cyfyngiadau cyfnod clo y pandemig, roedd y gymuned yn awyddus i dalu teyrnged a derbyniodd Rose a’i meibion Rod a Steve nifer fawr iawn o gardiau a negeseuon cydymdeimlad.
Yn ystod ei yrfa hir achubodd Phil fywydau dau berson, unwaith yn ystod llifogydd mawr ac yn yr ail ddigwyddiad fe helpodd i achub cymydog rhag tân mewn tŷ.
Ei weithred gyntaf o arwriaeth oedd yn 1982 pan gafodd ardal Llanrwst ei tharo gan law trwm a llifogydd ar ôl i wal oedd yn dal afon yn ôl ddymchwel. Wrth weld cymydog oedrannus yn mynd i drafferthion yn y dilyw ac yn cael ei ysgubo i lawr yr afon, plymiodd Phil i’r dŵr, gafael ynddi a’i thynnu i ddiogelwch y lan.
Yr ail dro i Phil ddangos ei ddewrder oedd yn 2000 pan achubodd ef a chyd-breswylydd, dyn tân wedi ymddeol, fywyd cymydog trwy eu tynnu allan o dân mewn tŷ. Wrth i fwg ledu drwy’r tŷ syrthiodd y cymydog yn anymwybodol ar ol anadlu mygdarth.
Yn 2015, cyflwynodd Cartrefi Conwy eu gwobr flynyddol Byw’r Gwerthoedd iddo am fynd tu hwnt i’r ail filltir er mwyn cyflawni safonau rhagorol o wasanaeth i denantiaid bregus.
![]()
Meddai Rose: “Roedd Phil yn bersonoliaeth dawel, yn ddiymhongar ond yn gyfeillgar gyda synnwyr digrifwch gwych.
“Doedd Phil byth yn hoffi bod yn ganolbwynt sylw a byddai’n ceisio osgoi hynny bob amser.
“Ond rwy’n gwybod yn dawel bach y byddai wedi gwirioni gyda hyn, yn falch o feddwl bod pobl am gydnabod gymaint wnaeth o ei roi i’r gymuned leol dros gymaint o flynyddoedd.
“Fo oedd y gŵr a’r tad gorau y gallai unrhyw un ddymuno amdano. Roedd mor oddefgar a byth yn codi ei lais.
“Roedd Phil wrth ei fodd yn treulio amser efo’i deulu ac efo’i bedwar o wyrion a’i ddau o lys-wyrion.
“Roedd yn caru ei rôl fel gofalwr ac yn ei gymryd o ddifrif. Roedd wrth ei fodd yn gofalu am bobl hŷn Llanrwst.
“Mi achubodd fywydau dau berson yn ystod ei amser, er na siaradodd erioed am y digwyddiadau. Roedd yn meddwl ei fod yn gwneud ei waith. Roedd hynny’n nodweddiadol o Phil.”
Dywedodd ei ffrind a’i gyn gydweithiwr Emyr Hughes: “Dyma yw etifeddiaeth Phil, teyrnged barhaol i ddyn a lwyddodd i wneud ei swydd yn dawel bach, heb fod eisiau unrhyw ffwdan, ond a oedd bob amser yn mynd yr ail filltir i’r gymuned oedd yn gartref iddo ac a wnaeth wahaniaeth enfawr i fywydau pobl.
“Byddai’n mynd allan o’i ffordd i gynorthwyo pobl. P’un a oeddent yn wynebu argyfwng difrifol neu dim ond angen newid bwlb golau byddai yno, hyd yn oed pe bai hynny y tu allan i’w oriau gwaith arferol.
“Mae ailenwi Glanrafon ar ei ôl yn deyrnged deilwng i rywun oedd yn annwyl iawn ac yn un o hoelion wyth y gymuned leol”
![]()
Llanrwst
Cartefi Conwy Housing Development
Glanrafon estate renamed Rhodfa Phil Evans
Housing officer Emyr Hughes hold up the new temporary signageMae’r 14 o gartrefi tai cymdeithasol newydd bron wedi’u cwblhau ac yn y lle cyntaf bydd y cartrefi tair a phedair ystafell wely hyn yn cael eu cynnig i bobl leol o Lanrwst sydd â’r angen mwyaf am dai. Dywedodd llefarydd ar ran Cartrefi Conwy:
Daw’r datblygiad o dan gytundeb polisi gosod lleol sy’n golygu y bydd pobl o ardal Llanrwst yn cael blaenoriaeth yn y system geisiadau. Mae gobeithion mawr y bydd hyn yn hybu economi’r dref ac yn lleddfu’r prinder tai yn yr ardal gyfagos.
Mae’r cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu i safon Beattie Passivehaus sy’n cynnwys deunydd inswleiddio perfformiad uchel i’w gwneud yn gwbl rydd o ddrafftiau. Mae hyn yn lleihau’r gwres a gollir gan greu cartrefi sy’n cael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd ac, yn hollbwysig, yn arbed hyd at 80 y cant o gostau ynni blynyddol i breswylwyr.
Yn ôl Cartrefi Conwy, mae’r cartrefi yn arbennig o addas ar gyfer pobl ag alergeddau a phroblemau anadlu oherwydd y llif cyson o aer wedi’i hidlo.
Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys tirlunio gwyrdd i wneud gwell defnydd o fannau cymunedol awyr agored, diweddariadau i’r man chwarae i blant a gwelliannau ac agor llwybrau cerdded ar hyd glan yr afon.
Ymgynghorodd Cartrefi Conwy â phobl leol i benderfynu beth oedd ei angen arnynt cyn llunio manyleb dylunio a chynllun tir ar gyfer y stad.
Mae’r arwyddion presennol yn rhai dros dro, wedi’u cynllunio i gyhoeddi’r newid enw ac i sicrhau bod ymwelwyr a gyrwyr danfon nwyddau yn dod yn gyfarwydd â’r newid cyfeiriad.
Ond yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd y rhain yn cael eu disodli gan blatiau enw mwy parhaol ac arwyddion stryd swyddogol Rhodfa Phil Evans.
I wirio a ydych yn gymwys i wneud cais am y cartrefi newydd neu i gael rhagor o fanylion am y datblygiad e-bostiwch sarth@cartreficonwy.org neu ffoniwch 0300 124 0050.