Cyn ddisgyblion yn rhoi A seren i ysgol ar ei newydd wedd

Cyn ddisgyblion yn rhoi A seren i ysgol ar ei newydd wedd

Roedd y dosbarth derbyn olaf hen ysgol gynradd hanesyddol yn westeion anrhydeddus mewn digwyddiad arbennig i ddathlu gwaith gwerth £5.3 miliwn I weddnewid yr ysgol yn gartrefi arbennig.

Caeodd Ysgol Maelgwn, yn Broad Street, am y tro olaf bum mlynedd yn ôl ond ymunodd y disgyblion, sydd bellach yn Ysgol newydd Awel y Mynydd, gyda phreswylwyr a staff cymdeithas dai Cartrefi Conwy, Cyngor Sir Conwy a Brenig Construction y datblygwyr, yn y digwyddiad.

Mae’r plant wedi chwarae eu rhan yn y gwaith ailddatblygu sylweddol gan Cartrefi Conwy, gyda’u henwau wedi’u cynnwys ar waith celf y murlun yn darlunio’r perlysiau, y ffrwythau a’r blodau a blannwyd yn y gerddi ac a ddewiswyd oherwydd eu harogl a’u hansawdd.

Cartrefi Conwy Cwrt Ysgol Maelgwn;

Mae’r rhain yn cynnwys saets, mefus, teim, berwr a lafant, ac fe wnaethon nhw hefyd roi help llaw i Matt Stowe, Swyddog Datblygu Amgylcheddol Cartrefi Conwy, i blannu’r gwelyau uchel yn yr ardal gymunedol.

Dywedodd eu cyn brifathrawes, Gisella Williams, a fu’n dysgu yn Ysgol Maelgwn am dros 20 mlynedd ac sydd bellach yn ddirprwy bennaeth yn Awel y Mynydd: “Mae’n anhygoel gweld y gweddnewidiad a’i weld yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned.

“Mae’r ffordd y maen nhw wedi ailadeiladu a chynnal a chadw’r adeilad yn wych ac yn dod ag atgofion yn ôl i mi. Aeth fy merch i’r ysgol yma.

“Rydw i wedi fy syfrdanu ac mae’n hyfryd gweld cymaint o’r hen staff hefyd ac mae mor braf ei fod yn cael ei defnyddio i helpu’r gymuned.”

Mae Brenig Construction wedi adeiladu 27 o gartrefi newydd i Cartrefi Conwy yn yr hen ysgol, sy’n adeilad rhestredig Gradd II a agorodd yn 1907, gyda’r hen ystafelloedd dosbarth yn y prif adeilad wedi’u trawsnewid yn 10 fflat ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae’r prosiect, a gefnogir gan Gyngor Conwy a Llywodraeth Cymru, wedi cadw llawer o’r nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys y teils, y lleoedd tân unigryw, y lloriau parquet a’r nenfwd pren cromennog ysblennydd.

Cartrefi Conwy Cwrt Ysgol Maelgwn;

A separate classroom building, which also has Grade II listed status, has been transformed into a five-bedroom bungalow for a family, with a member who has a disability.

The rest of the properties are a mix of houses, bungalows and flats providing affordable housing, including accommodation for people with a variety of needs.

Cartrefi Conwy Chief Executive Andrew Bowden said: “This is a fantastic facility that has transformed the lives of the people who have moved in.

“The quality of the finish here by Brenig Construction is wonderful and the team have done a brilliant job in bringing this building back to life.

“It was important that Conwy Council’s Social Services were brought in right from the start at the design stage so they were in the room with the architect, helping design it for its new occupants.

“That meant it was specifically put together to provide the support needed for the residents and to improve their wellbeing.”

Cartrefi Conwy Cwrt Ysgol Maelgwn; (Left/Right) Gareth Jones ; Cartrefi Chair of the Board, Andrew Bowden chief executive Cartrefi Conwy, Howard Vaughan Managing Director at Brenig construction Ltd and Cllr Mike Priestley. Picture Mandy Jones

Mae adeilad ystafell ddosbarth ar wahân, sydd hefyd â statws rhestredig Gradd II, wedi’i drawsnewid yn fyngalo pum ystafell wely ar gyfer teulu, sydd ag aelod anabl.

Mae gweddill yr eiddo yn gymysgedd o dai, byngalos a fflatiau sy’n darparu tai fforddiadwy, gan gynnwys llety ar gyfer pobl ag amrywiaeth o anghenion.

Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mae hwn yn gyfleuster gwych sydd wedi trawsnewid bywydau’r bobl sydd wedi symud i mewn.

“Mae ansawdd y gorffeniad yma gan Brenig Construction yn wych ac mae’r tîm wedi gwneud gwaith rhagorol yn rhoi bywyd newydd i’r adeilad hwn.

“Roedd yn bwysig bod Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Conwy yn dod i mewn o’r cychwyn cyntaf yn y cam dylunio fel eu bod yn yr ystafell gyda’r pensaer, yn helpu i’w dylunio ar gyfer ei ddeiliaid newydd.

“Roedd hynny’n golygu ei fod wedi’i roi at ei gilydd yn benodol i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar y trigolion ac i wella eu lles.”

Mae’r waliau tu fewn i’r hen ysgol yn cynnwys lluniau o hanes 110 mlynedd yr ysgol, a ddarparwyd gan y cyn-ddisgybl Pat Roberts, trysorydd Pwyllgor y Neuadd Goffa, sydd wedi eu cadw’n ddiogel ers i’r ysgol gau.

Meddai: “Rwy’n ei chofio’n dda ac roedd yn ysgol hapus gydag awyrgylch braf a chynnes yma – maen nhw wir wedi gwneud cyfiawnder â’r lle.”

Cyn-ddisgybl arall yw Cyd-Reolwr Gyfarwyddwr Brenig Construction Howard Vaughan a oruchwyliodd y gwaith gan gyfaddef mai llafur cariad oedd bod yn rhan ohono.

“Mae bod yma i mi yn fwy na chyflawniad busnes yn unig – mae’n bersonol,” meddai: “Mae achub ac adfer rhywbeth oedd yn rhan mor fawr o’ch bywyd eich hun a’i ddwyn yn ôl i’r gymuned yn anhygoel.

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi gallu darparu cartrefi i breswylwyr ag anghenion gwahanol a rhoi’r ardaloedd cymunedol hyn yn ôl i bobl sy’n gallu byw yma’n annibynnol gyda chefnogaeth o’u cwmpas yn wych.

“Mae wedi troi allan mor dda ac mae’n ddatblygiad rydyn ni’n falch iawn ohono oherwydd fel busnes yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw gallu adeiladu’n well ac adeiladu cartrefi sy’n diwallu anghenion pobl.”

 

Cartrefi Conwy Cwrt Ysgol Maelgwn;

Ychwanegodd Cynghorydd Sir Conwy Mike Priestley, cyn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Maelgwn: “Mae’n ddatblygiad anhygoel ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y ffordd y maen nhw wedi cadw cymaint o nodweddion yr ysgol sydd wedi gweld cymaint o bobl leol yn pasio drwy ei drysau ac yn parhau i basio trwy’r drysau hynny.

“Mae’n dal i fod â llawer o’r elfennau o’r hen ysgol a bydd hynny’n golygu cymaint i gynifer o bobl ac rwy’n canmol y gweithio mewn partneriaeth sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl.”

Dywedodd y preswylydd Lisa Smith sy’n byw ar Gwrt Maelgwn gyda’i theulu: “Mae’n anhygoel, yn hyfryd iawn ac mae pawb yma’n dod at ei gilydd i fwynhau’r gerddi a’r ardal eistedd.

“Mae fy merch yn awtistig ac mae hi wrth ei bodd yn dod i fyny yma i’r ardal gymunedol i weld, arogli a chyffwrdd â’r blodau a’r perlysiau yn yr ardd.”

Category: Uncategorized @cy