A allai gwlân defaid ein helpu i greu cartrefi cynaliadwy’r dyfodol?

A allai gwlân defaid ein helpu i greu cartrefi cynaliadwy’r dyfodol?

Mae Cartrefi Conwy a’i is-gwmni Creu Menter wedi elwa ar gymorth ariannol gan raglen SMARTCymru Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae ein prosiect Inswleiddio Ffibr Naturiol Cymru (WNFI) yn ceisio defnyddio deunyddiau crai o Gymru i ddatblygu cynnyrch insiwleiddio wedi’i weithgynhyrchu yng Nghymru, sy’n adnewyddadwy ac o ffynonellau lleol, ac a allai o bosibl ein helpu i greu cartrefi cynaliadwy.

Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, rydym yn gobeithio datblygu cynnyrch insiwleiddio ffibr naturiol newydd sydd nid yn unig yn ynni-effeithlon ond yn perfformio’n well o ran amddiffyn rhag tân, llygredd aer a sŵn. Mae ffibrau naturiol yn cynnwys deunyddiau fel ffibr pren, cywarch a llin yn ogystal â Gwlân Defaid. Nid yn unig yw gwlân defaid yn ynysydd thermol, ond mae ei briodweddau yn cynnwys puro aer, rheoleiddio lleithder, inswleiddio rhag sŵn ac amddiffyn rhag tân, yn ogystal â bod yn gynaliadwy.

Bydd cam cyntaf y prosiect yn seiliedig ar ymchwil, lle byddwn yn profi’r cynhyrchion ffibr naturiol ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn ogystal â thymheredd, lleithder ac ati dan do.

Os bydd hyn yn llwyddiannus, ein nod yw treialu’r cynnyrch newydd hwn yn un o’n cartrefi fel rhan o’n rhaglen ôl-osod barhaus.

 

Category: Uncategorized @cy