Gwiriadau diogelwch tân drws ffrynt fflatiau

Gwiriadau diogelwch tân drws ffrynt fflatiau

Mae Nationwide Windows and Doors Ltd yn cynnal gwiriadau diogelwch tân pwysig ar bob drws ffrynt fflatiau a drysau tân cypyrddau cymunedol. Cofiwch fod drws tân eich fflat yno i’ch diogelu chi a’ch cymdogion pe bai tân.

Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr arolygiad.

Bydd gosodwr drws tân cymwys yn cynnal yr arolygiad a bydd yn cymryd tua awr i’w gwblhau. Bydd angen i’r gweithiwr gael mynediad i ddwy ochr eich drws ffrynt a bydd angen tynnu’r trimiau o amgylch y drws.

 Dyma beth rydyn ni’n ei wirio.

  • Mae’r ddyfais hunan-gau yn gweithio fel y dylai – os nad ydyw, byddwn yn trwsio neu’n newid y ddyfais.
  • Ni ddylai fod unrhyw beth wedi’i osod na’i sgriwio i mewn neu drwy’r drws tân neu ffrâm y drws. Os caiff eitemau eu gosod ar neu drwy’r drws tân neu’r ffrâm, byddant yn cael eu tynnu a’u llenwi â seliwr gwrth-dân.
  • Unrhyw ddifrod i’r blwch llythyrau neu gweld a oes angen ei newid.
  • Cofiwch y dylid cadw drysau tân ar gau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Os oes unrhyw eitemau neu gliciedi i’w dal ar agor y drws, byddwn yn tynnu’r rhain.
  • Os oes angen drws tân ffrynt newydd arnoch, byddwn yn archebu un arall a gosod hwn.
  • Mae drysau tân y cwpwrdd storio cymunedol yn gweithio fel y dylent.

 Cofiwch

👉 Rhowch wybod i ni ar unwaith am unrhyw nam neu ddifrod i ddrysau tân 📞 Tîm Gwasanaeth Cwsmer ar 0300 124 0040 neu 📧 enquiries@cartreficonwy.org

Diolch am helpu i gadw lle rydych chi’n byw yn ddiogel.

 

Category: Uncategorized @cy