Grŵp Ymlacio Trwy Gelf Bae Colwyn am rannu eu hymweliad â Chanolfan Pensychnant

Grŵp Ymlacio Trwy Gelf Bae Colwyn am rannu eu hymweliad â Chanolfan Pensychnant

Diolch i grŵp Ymlacio Trwy Gelf Bae Colwyn am rannu eu hymweliad â Chanolfan Pensychnant ddydd Llun 12 Mehefin i edrych ar yr Arddangosfa Gelf. Buont yn ymweld â Phensychant gydag Addysg Oedolion Cymru i gael rhai syniadau ar gyfer eu prosiectau celf eu hunain.

Cafodd ein tenantiaid fore hyfryd yn archwilio’r tŷ a’r gerddi tra’n cael llawer o syniadau ar gyfer eu prosiectau. Mi wnaethon nhw fwynhau te a chacen yn yr ardd wrth ddysgu am y gwahanol flodau gwyllt sy’n tyfu yn yr ardd.

Daeth y tiwtor o Addysg Oedolion Cymru â deunydd celf gyda hi hefyd er mwyn i’r grŵp roi cynnig ar ddarlunio’r tŷ a’r gerddi. Buont hefyd yn sgwrsio am brosiectau celf eraill sy’n digwydd yn y Ganolfan ac mae rhai tenantiaid yn edrych ar archebu lle ar y sesiwn grefftau Blodau Helyg a Gwenoliaid lle byddant yn gwneud blodau a gwenoliaid o helyg. Prynodd y grŵp hefyd ychydig o lyfrau celf a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eu dosbarthiadau wythnosol.

Cafodd y grŵp fore bendigedig yn llawn ysbrydoliaeth a dywedodd rhai ohonynt wrthym:

“Diolch am fore hyfryd, doeddwn i ddim yn siŵr am fynd ond rwy’n falch fy mod wedi gwneud, byddaf yn bendant yn ymweld eto”.

“Am ddiwrnod gwych, mi wnes i fwynhau cymaint. Rwan rwy’n bwriadu archebu lle ar y sesiynau celf a chrefft ar y penwythnos”.

Ymwelwch â Phenschynant yma

Category: Uncategorized @cy