Mae gwaith wedi dechrau ar ffatri newydd chwyldroadol fydd yn adeiladu ‘tai modiwlar’ i gynhyrchu tai ynni isel gyda chostau rhedeg o ddim ond £200 y flwyddyn.
Mae’r ffatri, sydd ar Ystâd Ddiwydiannol Penrhos yng Nghaergybi, wedi gwneud ffrâm bren ar gyfer byngalo newydd mewn llai na tri diwrnod ac mae ganddynt eisoes archebion ar gyfer dros 40 o dai.
Cafodd y cynllun ei lansio gan Creu Menter, sefydliad eiddo a hyfforddi sydd wedi’i sefydlu fel is-gwmni i gymdeithas dai Cartrefi Conwy.
Mae lle i gredu taw’r fenter yma yw’r gyntaf o’i bath gan fenter gymdeithasol yng Nghymru ac mae wedi creu pedair swydd newydd, gyda mwy ar y gweill wrth i’r cwmni dyfu.
Un o fanteision y tai yw y bydd yn bosib eu hadeiladu o fewn 10 diwrnod unwaith y bydd y deunyddiau ar y safle.
Mae gan y cwmni gytundebau i ddarparu tai ar gyfer Cyngor Ynys Môn, Cartrefi Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae “diddordeb sylweddol” wedi dod gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Cafodd Creu Menter, sydd wedi’i lleoli ym Mharc Busnes Cartrefi Conwy, ym Mochdre, ger Bae Colwyn, ei sefydlu yn 2015.
Mae’r fenter gymdeithasol, y gyntaf o’i bath yng Nghymru, hefyd yn rhedeg Academi Gyflogaeth er mwyn cynnig cyfleodd, hyfforddiant a chymwysterau i bobl leol di-waith, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy.
Maent bellach wedi creu partneriaeth gyda Beattie Passive o Norfolk, y gwneuthurwyr mwyaf o dai passivhaus, ynni isel yn y Deyrnas Unedig sy’n medru arbed hyd at 90% mewn costau ynni blynyddol i denantiaid.
Dywedodd Adrian Johnson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Cartrefi Conwy: “Fel rhan o’n hymrwymiad i adeiladu tai fforddiadwy ar draws gogledd Cymru, rydym yn credu ein bod wedi cael partner gwych yn Beattie Passive.
“Ein nod, fel menter gymdeithasol, yw nid yn unig adeiladu’r cartrefi ond hefyd defnyddio’r elw a gynhyrchir i roi cyfle i bobl ddi-waith o bob cwr o Ogledd Cymru i gael profiad, hyfforddiant a chymwysterau yn y gweithle.
“Rydym yn amcangyfrif ein bod ni’n medru adeiladu tai tair ystafell wely confensiynol o fewn 10 diwrnod, yn barod ar gyfer gosod to a gorffeniadau.”
Bydd tai passivhaus Creu Menter yn defnyddio inswleiddio perfformiad uchel i sicrhau nad oes drafft yn y tai, gan dorri’r gwres a gollir i greu tŷ fydd yn cael cyn lleied o effaith amgylcheddol â phosib.
Bydd boeler combi bychan yn pweru un neu ddau o reiddiaduron, sy’n ddigon i wresogi’r eiddo i 22C a darparu dŵr poeth, gydag amcangyfrif o gost ynni blynyddol o £200, o’i gymharu â chostau ynni arferol tŷ tair ystafell wely o rhwng £1200 i £1400.
Mae pedwar saer cymwysedig yn gweithio yn ffatri Penrhos, gan gynnwys Carl Griffiths, o Gyffordd Llandudno, a ddywedodd: “Mi wnaethon ni fynd ar gwrs efo Beattie Passive y llynedd ac rydym eisoes wedi dechrau hyfforddi gwirfoddolwyr di-waith o ardal Caergybi. Yn y flwyddyn gyntaf rydym yn disgwyl rhoi cyfleodd gwaith i 50 o unigolion.
“Mae’n system gyflym ac effeithlon. Gallwn roi ffrâm y tŷ i fyny mewn dau ddiwrnod – dyma yw dyfodol adeiladu.
“Gall y ffrâm bren gael ei gorchuddio mewn unrhyw ddeunydd o’ch dewis ac yna’n fewnol mae byrddau plastr a philen aerdyn yn selio’r tŷ felly does fawr ddim gwres yn cael ei golli.”
Yn ôl Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden, mae’r fenter yn rhan o’u strategaeth £40 miliwn i greu 250 o dai newydd erbyn 2020.
Dywedodd: “Rydyn ni’n gweld hyn fel sefyllfa lle mae pawb yn y sector ar eu hennill. Fel menter gymdeithasol mae’n rhaid i ni wneud elw ond mae hynny wedyn yn cael ei ailgylchu i mewn i lesiant cymdeithasol sy’n dod â thenantiaid yn ôl i mewn i gyflogaeth.
“Gall cymdeithasau tai uniaethu efo hyn oherwydd rydym yn cynhyrchu cynnyrch o safon ac rydym yn defnyddio ein tenantiaid di-waith i’n helpu i’w hadeiladu.
“Rwy’n meddwl am ein ffatri yng Nghaergybi fel ein prif ganolfan cynhyrchu a phe baem yn ennill cytundeb mawr rhywle arall yng ngogledd Cymru byddem yn sefydlu ‘ffatri lloeren’ ar y safle i gynhyrchu’r fframiau.”
Mae Creu Menter wedi cael cefnogaeth yng Nghaergybi gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir, sydd wedi darparu £175,000 o gyllid tuag at ddarparu cyfarpar yn y ffatri ym Mhenrhos.
Ychwanegodd Mr Johnson: “Mae adeiladu modiwlar yn gysyniad cymharol newydd ac arloesol ar gyfer cymdeithasau tai a datblygwyr ac mae nifer yn prynu’r adeiladau yma’n syth oddi ar y silff, ond mi wnaethon ni feddwl y byddem yn rhoi cynnig ar wneud rhywbeth gwahanol a defnyddio ein llafur di-grefft ein hunain.
“Mi wnaethon ni ddewis Beattie Passive fel partner oherwydd ein bod yn rhannu eu hethos o ddefnyddio llafur di-grefft i adeiladu cynnyrch o safon uchel gydag ôl-troed carbon isel.
“Ar hyn o bryd rydym yn amcangyfrif y gallem adeiladu tŷ am bris tebyg i bris tŷ confensiynol, ond wrth i ni gyflymu ac wrth i’r llyfr archebion lenwi rydym yn gobeithio gweld y costau hynny’n lleihau.”
Dywedodd Ron Beattie, Rheolwr Gyfarwyddwr Beattie Passive: “Rydym yn falch iawn i gydweithio gyda Chartrefi Conwy a Chreu Menter i ddarparu tai Beattie Passive yng ngogledd Cymru. Rydym yn credu eu bod yn esiampl dda o werthoedd ac amcanion Beattie Passive ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein partneriaeth.”
Am fwy o wybodaeth am Creu Menter ewch i <https://www.creatingenterprise.org.uk/en/home/> ac am fwy o wybodaeth ar Beattie Passive ewch i <http://www.beattiepassive.com/index.php>