AELODAU O’R BWRDD YN RHOI CYNNIG AR YR HER “MANNEQUIN”

AELODAU O’R BWRDD YN RHOI CYNNIG AR YR HER “MANNEQUIN”

I ddathlu Plant mewn Angen 2016, pa ffordd well o godi arian a chyfranogi na thrwy gael aelodau o’n bwrdd i gymryd rhan yn yr Her Mannequin.

Yn ystod diwrnod preswyl y bwrdd yng ngwesty Cei Deganwy, cawsom gyfle perffaith i gael pawb mewn ystafell ac i godi arian.

Mae’r fideo ar gael isod gyda’n holl aelodau o’r bwrdd yn cyfrannu ac yn sefyll yn llonydd er budd elusen.

Fe wnaeth ein Prif Weithredwr ni, Andrew Bowden hyd yn oed gyfranogi ymhlith rhai o enwogion Cartrefi ar ffurf cardbord, y gall rhai ohonoch fod wedi’u gweld yn ein Diwrnod Allan MAWR ym mis Awst.

Drwy ddefnyddio’r fideo yma a defnyddio’r hashnod #trechurbwrdd drwy Twitter, fe wnaethom annog cydweithwyr mewnol i dyrchu yn eu pocedi a threchu cyfanswm codi arian y bwrdd.

Yn ystod y diwrnod ei hun, fe wnaethom lwyddo i godi cyfanswm o £564.30. Cafodd hyn ei godi drwy werthu teisennau, raffl a’r haelioni cyffredinol gan staff drwy gydol y dydd.

 

 

 

 

 

Category: Uncategorized @cy