Hoffai’r Cyngor brydlesu eiddo gan berchnogion am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn diwallu angen lleol o ran tai.
Fel rhan o Gynllun Prydlesu’r Sector Preifat Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy ac Asiantaeth Osod HAWS.
Am beth ydym ni’n chwilio?
Rydym am brydlesu eiddo heb eu dodrefnu am bum mlynedd i ddarparu cartrefi ar gyfer preswylwyr Conwy a Sir Ddinbych.
Mae angen amrywiaeth o wahanol fathau a meintiau o eiddo arnom ar draws y prif ardaloedd poblogaeth yn y ddwy Sir.
Adnewyddu/gwella eiddo
Os oes angen adnewyddu eich eiddo er mwyn cyrraedd safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydlesu, mae cymorth ariannol ar gael.
Mae grant o hyd at £2,000, a benthyciad di-log o hyd at £8,000 (ad-daladwy dros 48 mis) ar gael, pe bai angen i chi wneud gwelliannau a nodwyd.
Byddwn ni’n cynnal arolwg eiddo a’i drafod gyda chi er mwyn nodi’r angen am welliannau.
Gallwch drefnu eich dyfynbrisiau eich hunain ar gyfer y gwaith gyda chontractwyr lleol. Neu gallwn ddarparu dyfynbrisiau o dîm mewnol Cartrefi Conwy o gontractwyr cymwys.
Os byddwch chi’n prydlesu eich eiddo i ni, bydd angen i chi ddarparu:
Beth y gallwch ei ddisgwyl:
Bydd Asiantaeth Osod HAWS, ar ran CBSC a CSDd, yn gofalu am reoli’r eiddo sy’n rhan o’r cynllun o ddydd i ddydd.
Bydd staff HAWS yn archwilio eiddo’n rheolaidd, a monitro gweithgarwch tenantiaid a delio ag unrhyw faterion yn brydlon, os byddant yn codi.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Anna Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, anna.catrin.jones@conwy.gov.uk, 01492 576640 / 0300 124 0050.
Lynsey Blackford, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lynsey.blackford@conwy.gov.uk, 01492 576264 / 0300 124 0050
Simon Farrell Cyngor Sir Ddinbych, Simon.Farrell@denbighshire.gov.uk, 01824 712422
Jeff Evans, HAWS, Jeff.Evans@cartreficonwy.org, 01745 335690