Cartrefi Conwy and Together Colwyn Bay at Welsh mountain Zoo. Pictured (Right) Andrew Bowden – Cartrefi Conwy Chief Executive with his Brother Kevin and Grandchildren Isabelle and Freddie. Picture Mandy Jones
Aeth cannoedd o denantiaid a’u teuluoedd ar wibdaith i’r sw diolch i haelioni cymdeithas dai.
Mi wnaeth Cartrefi Conwy gamu i’r adwy a rhoi cefnogaeth ar ôl clywed bod y Sw Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn yn brwydro i oroesi yn ystod y pandemig.
Roedd cefnogaeth y gymdeithas tai yn golygu bod mwy na 500 o docynnau wedi’u darparu i denantiaid a phobl leol eraill ar gyfer diwrnod allan hwyliog yn yr atyniad poblogaidd i dwristiaid, sy’n gartref i 140 o wahanol rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cathod mawr, epaod, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid.
Ymunodd Cartrefi Conwy â’r grŵp gweithredu cymunedol Gyda’i Gilydd ar gyfer Bae Colwyn a’r sw i drefnu’r digwyddiad.
Ond roedd pethau’n edrych yn llwm ar gyfer y sw ar anterth cyfyngiadau Covid-19 pan nad oedd ymwelwyr yn cael dod yno, gan olygu nad oedd gan y sw unrhyw incwm.
Dywedodd Charlotte Dykes, rheolwr marchnata’r sw: “Roedd costau rhedeg elusen y sw tra roeddem ar gau yn fwy na £100,000 y mis.
“Roedd hynny a cholli incwm tra roeddem ar gau, yn golygu bod yr argyfwng y cawsom ein hunain ynddo gyda’r gwaethaf y mae’r sw erioed wedi’i wynebu yn ei hanes 58 mlynedd.”
Ar ôl clywed am broblemau’r sw gan grŵp gweithredu preswylwyr Gyda’n Gilydd dros Fae Colwyn, penderfynodd aelodau o’r tîm cymunedol yn Cartrefi Conwy, sydd â thros 4,000 o gartrefi, eu bod eisiau helpu.
Cartrefi Conwy and Together Colwyn Bay at Welsh mountain Zoo. Pictured are Vin Murtagh of Together Colwyn Bay, Charlotte Dykes of Welsh Mountain Zoo and Katie Clubb Managing Director, Cartrefi Conwy. Picture Mandy Jones
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Cartrefi Conwy, Katie Clubb: “Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o fusnesau lleol.
“Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gwerth cymdeithasol yn Cartrefi Conwy, rydym yn awyddus i gefnogi busnesau lleol sy’n adfer yn dilyn y pandemig ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r sw fel hyn.”
“Efallai y bydd rhai pobl yn tybio mai dim ond darparu tai yw bod yn landlord cymdeithasol. Rydyn ni’n gwneud hynny, ond i ni, mae cefnogi’r gymuned leol a darparu gwerth cymdeithasol wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
“Oherwydd Covid, nid ydym wedi gallu cael ein digwyddiadau ymgysylltu cymunedol arferol â’n tenantiaid felly roedd hwn yn gyfle gwych i gyfarfod a siarad â’n tenantiaid a phartneru gyda’r sw i gefnogi sefydliad lleol eiconig ar yr un pryd.”
Ynghyd â’r gefnogaeth gan Cartrefi Conwy, mae’r sw wedi croesawu rhoddion gan grwpiau a sefydliadau lleol eraill.
“Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gymunedol ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn,” meddai Charlotte. “Mae trigolion lleol wedi bod yn trefnu rhoddion a chasgliadau bwyd yn ystod yr amseroedd anodd a rŵan mae’r sw yn agored eto ac yn brysurach nag erioed, roeddem am drefnu diwrnod cymunedol er mwyn diolch i bawb.”
Unwaith eto, camodd Cartrefi Conwy ynghyd â Gyda’n Gilydd dros Fae Colwyn, i’r adwy y tro hwn gan helpu i drefnu penwythnos i’w gofio i’w denantiaid a thrigolion lleol eraill.
“Roedden ni’n gwybod bod y sw eisiau agor ei drysau i’r gymuned a’i helpodd, felly mi wnaethon ni ddod ynghyd efo rhai sefydliadau eraill sydd â nodau tebyg i greu diwrnod allan yn y sw gydag ambell i beth ychwanegol,” meddai Katie.
Y canlyniad oedd rhaglen llawn hwyl o gerddoriaeth fyw, picnics, gemau a helfeydd trysor ar y brif lawnt yn y sw.
Prynodd Cartrefi Conwy gannoedd o docynnau i’r sw i’w denantiaid – ac roedd gostyngiadau eraill hefyd gan y Sw ar gyfer teuluoedd lleol.
“Mae’r Sw Fynydd Gymreig yn ased lleol o bwys, ac mae cymaint ohonom wedi ymweld â’r lle dros y blynyddoedd fel ei fod yn rhan o’n hunaniaeth,” meddai Vin Murtagh, swyddog datblygu cymunedol Bae Colwyn.
“Bu brwdfrydedd enfawr dros y penwythnos cymunedol yn y sw oedd yn ymwneud â dathlu’r hyn sydd gennym.”
Yn ôl Charlotte Dykes, roedd y sw yn bownsio’n ôl ar ôl anawsterau’r cyfnod clo..
“Gyda mwy o bobl yn cymryd gwyliau yn agosach at adref, mae ein ffigurau ymwelwyr yn ôl i niferoedd cyn y pandemig,” meddai.
“Mae’n wych gweld cymaint o deuluoedd yma’n mwynhau eu hunain.”
Cartrefi Conwy and Together Colwyn Bay at Welsh mountain Zoo. Pictured are Isabelle and Freddie Bowden. Picture Mandy Jones
Ymhlith y rhai a fwynhaodd y diwrnod allan yn yr heulwen yr oedd Jasmine Abdel Khalek, 10 oed, a’i brawd pedair oed Omar, ynghyd â’i mam Emma a’i thad Hany, o Fae Cinmel.
Roedd Jasmine wrth ei bodd pan enillodd yr helfa drysor. “Rwy’n gobeithio y byddaf yn cael gwobr,” meddai.
Ychwanegodd Mam Emma: “Rwy’n credu ei fod wedi bod yn ddiwrnod gwych. Mae’r plant wrth eu boddau yn yr awyr agored, maen nhw wedi bod yn rhedeg yn wyllt ac yn cael hwyl.
“Rwy’n falch iawn o weld cymaint o bobl yma yn mwynhau eu hunain. Rwy’n cofio dod yma fel plentyn a byddai wedi bod yn gymaint o drueni pe bai’n rhaid iddo gau. “
Cytunodd Katie Clubb, a oedd yn mynychu’r diwrnod gyda’i mab tair oed, Charlie. “Roedd pob teulu, gan gynnwys ein tenantiaid, yn gaeth i’w tai yn ystod y cyfnod clo,” meddai.
“Nid yw rhai plant ifanc iawn wedi gallu mynd allan a mwynhau’r math hwn o atyniad tan yn ddiweddar ac mae’n wych eu gweld yn yr awyr agored, yn rhedeg o gwmpas ac yn chwerthin.
“Rwy’n gwybod bod Charlie wedi gwirioni gweld y mwncïod digywilydd yn agos.”
Cartrefi Conwy and Together Colwyn Bay at Welsh mountain Zoo. Picture Mandy Jones
Ac mae Katie yn gobeithio y bydd gwaddol parhaol i’r penwythnos.
“Dywedodd un o’n tenantiaid yma heddiw, mam â merch ifanc, wrtha i fod y digwyddiad a’r sw wedi gwneud argraff fawr arni, felly roedd ei merch rwan yn bwriadu dod i weithio yma fel gwirfoddolwr. Mae hynny’n ganlyniad gwych i’r sw a ninnau.”