Helo bawb,
Croeso i rifyn yr haf o’n cylchlythyr! Mae gennym wybodaeth a diweddariadau cyffrous i chi.
Helpu Tenantiaid i Gynilo: Darllenwch am sut y gall ein Tîm Cymorth Ariannol anhygoel eich helpu i gynilo, neu ddarganfod budd-daliadau ychwanegol y gallai fod gennych hawl iddynt.
Boddhad cwsmeriaid: Mae eich adborth yn hanfodol i’r ffordd rydym yn gweithredu! Mae ein canlyniadau boddhad cwsmeriaid diweddaraf i mewn, ac rydym yn gyffrous i’w rhannu gyda chi.
Adrodd am Waith Trwsio: Mae adrodd am waith trwsio yn hawdd ac yn hanfodol ar gyfer cadw eich cartref mewn cyflwr da. Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y byddwch yn sylwi ar broblem fel y gallwn ei datrys yn gyflym.
Yswiriant Cynnwys Cartref ‘MyHome’: Ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai’n digwydd pe byddech chi’n colli’ch pethau mewn tân neu lifogydd? Gwnewch yn siŵr bod yswiriant Thistle Home Contents Insurance – ein partner yswiriant – wedi’i gynnwys gyda’ch eiddo
Cymorth Creu Dyfodol: Dysgwch sut i wneud cais am swyddi, darganfod cyfleoedd gwirfoddoli, gwella eich sgiliau TG a mwy, gyda tîm anhygoel Creu Dyfodol!
Dweud eich dweud – Cartrefi yn Cysylltu: Cartrefi yn Cysylltu yw ein grŵp Facebook ar gyfer tenantiaid. Mae’r grŵp hwn yn ofod i ni ymgysylltu â thenantiaid ar amrywiaeth o bynciau y gallwch chi ddylanwadu arnyn nhw.
Darllenwch y newyddion diweddaraf yma>>>