Defnyddio batris Lithiwm-ion yn ddiogel
Dechreuwyd tân diweddar yng nghartrefi tenantiaid pan daniodd batri Lithiwm-ion gan achosi i dân dinistriol ledu drwy eu cartref.
Yn ddiweddar rydym wedi rhoi cefnogaeth, y tu ôl i’r llenni, pan adroddodd ein tenant dewr Sarah am y digwyddiad wrth Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.Rydym yn diolchgar i Sarah am gytuno i gael ei chyfweld ar fideo i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân – bydd cyfle i chi wylio stori emosiynol a theimladwy Sarah yn y Flwyddyn Newydd. Mae Sarah eisiau rhannu ei stori, fel na fydd eraill yn gorfod mynd drwy yr hyn mae ei theulu wedi mynd drwyddo.
➡️Gall ffonau symudol, gliniaduron, e-sigaréts, e-sgwteri a cherbydau symudedd gynnwys batris lithiwm-ion. Os ydynt wedi’u difrodi, yn ddiffygiol neu wedi’u gwefru’n anghywir, gallant achosi tanau difrifol.
✅Defnyddiwch y gwefrydd cywir – Defnyddiwch y gwefrydd cywir ar gyfer eich dyfais bob amser.
✅Cadwch allanfeydd yn glir – Peidiwch byth â gwefru e-sgwteri, cerbydau symudedd neu fatris mawr lle gallent rwystro i chi ddianc.
✅Gwefru tra rydych yn effro – Peidiwch â gadael dyfeisiau yn gwefru dros nos neu pan nad oes neb gartref.
✅Datgysylltwch y gwefrydd unwaith y bydd y batri yn llawn.
✅Andabod yr arwyddion rhybuddio – Stopiwch ddefnyddio batri os yw’n mynd yn boeth iawn, yn newid siâp, yn gollwng, yn arogli’n rhyfedd neu’n gwneud sŵn anarferol.
➡️I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio batris lithium-eon yn ddiogel cliciwch yma Lithium – ion Batteries – Yn y cartref – Cadw Chi’n Ddiogel – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru