Cartrefi Conwy St Grwst’s Church, Llanrwst Sing along: Give where you live co-ordinator Allison Hughes and Older persons engagement officer Nerys Veldhuizen singing Cliff Richards’ ‘Congratulations with Anne Terry, Kay Lewis, Helen Roberts, Tom Parry, Pat Williams, Piet Botes and Keith Roberts
Mae mecanig 94 oed sydd wedi ymddeol yn ail-diwnio ei lais ar ôl ymuno â grŵp canu sy’n curo straen ac sy’n rhoi hwb i iechyd.
Mae Tom Parry yn cymryd rhan reolaidd yn y sesiynau a lansiwyd yn Eglwys Sant Crwst yn Llanrwst er mwyn helpu tenantiaid cymdeithasau tai i ddod i arfer â chymysgu eto yn dilyn cyfnodau clo y pandemig.
Cartrefi Conwy – St Grwst’s Church, Llanrwst Sing along Some great moves from Tom Parry
Bu’r grŵp canu yn gymaint o lwyddiant, gyda rhwng 15 ac 20 o bobl yn dod draw, nes iddynt benderfynu dal ati.
Rhoddwyd croeso cynnes i’r sesiynau swynol gan bobl leol sy’n gwerthfawrogi’r awyrgylch hamddenol, y cyfle i gwrdd, ymarfer eu lleisiau ac, os ydynt yn dymuno, dawnsio ychydig.
Tom, sy’n cerdded i’r eglwys, yw’r hynaf o aelodau rheolaidd y grŵp ac mae wrth ei fodd yn cael cyfle i ddawnsio’n ysgafn i nodau cyffrous y ‘Mambo Italiano’.
Dywedodd: “Mae’n lle gwych, ac yn syniad da iawn.”
Cartrefi Conwy St Grwst’s Church, Llanrwst Sing along Friends since childhood Kay Lewis and Helen Roberts
Trefnir y sesiynau gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy ac fe’u harweinir gan Allison Hughes, sy’n hoffi cadw’r hwyliau’n hamddenol a chodi calon.
Meddai: “Nid oes unrhyw reolau caeth, mae’r pwyslais i gyd ar fwynhad. Gall pobl ddod draw hyd yn oed os ydyn nhw ychydig yn swil am ganu. Mae croeso iddyn nhw eistedd a gwrando neu dapio’u traed i’r gerddoriaeth.”
Dywedodd Allison, sy’n Gydlynydd Rhoi Lle Ti’n Byw (GWYL) Cartrefi Conwy, fod y sesiynau fel arfer yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener unwaith y mis sy’n amser addas iawn ar gyfer codi’r ysbryd ar gyfer dechrau penwythnos.
Meddai: “Os oes unrhyw un wedi cael wythnos wael neu’n teimlo ychydig yn swrth yna dod yma ac ymuno efo ni yw’r ateb perffaith i hynny.
“Gallaf ei argymell yn bersonol. Hyd yn oed os nad oes llawer o awydd canu arna i pan dw i’n cyrraedd, erbyn i’r sesiwn ddod i ben rydw i bob amser mewn hwyliau gwell, mae’n amgylchedd mor groesawgar a bywiog.
“Weithiau mae pobl sy’n ymweld â’r eglwys hyfryd hynafol hon yn ein gweld yn canu ac yn ymuno’n fyrfyfyr. Does dim rhwystrau rhag cymryd rhan.”
Mae’r ddwy ffrind bore oes Helen Roberts a Kay Lewis, sydd bellach yn eu saithdegau, hefyd wrth eu boddau i gael cyfle i gymdeithasu, canu a mwynhau te a theisen yn ystod egwyl ar ôl jeifio i gân enwog Connie Francis ‘Stupid Cupid’.
Dywedodd Helen, 75 oed, sy’n un o denantiaid Cartrefi Conwy: “Doedden ni ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan awgrymwyd y syniad am ‘godi canu’ ond mi wnaethon ni benderfynu dod draw i weld.
“A dweud y gwir mae wedi bod yn wych, yn gyfle ardderchog i gyfarfod efo pobl eto ar ôl cyfnod anodd y pandemig. Rydan ni’n canu ychydig o ganeuon, ond rydan ni hefyd yn cael cyfle am sgwrs ac ychydig o hwyl. Mae’n wych.”
Cytunodd Pat Williams, sydd hefyd yn denant i Cartrefi Conwy.
Meddai: “I mi mae wedi bod yn eithaf anodd a hyd yn oed ychydig yn frawychus dod i arfer â mynd allan eto ar ôl yr holl fisoedd hynny yn cysgodi yn ystod y cyfyngiadau ar symud.
“Pan gafodd yr holl gyfyngiadau pellhau cymdeithasol eu llacio, roeddwn i’n dal yn wyliadwrus iawn ynglŷn â mynd allan a chymysgu efo pobl eto.
“Ond mae dod yma, a gweld wynebau cyfeillgar mewn amgylchedd mor ddiogel, a chyfforddus wedi fy helpu i ddod yn ôl i normal.
“Mae’r elfen gerddorol mor dda oherwydd rydan ni i gyd yn cael hwb wrth ganu efo’n gilydd. Does dim cystadleuaeth, mae’n llawer o hwyl.”
Cartrefi Conwy
St Grwst’s Church, Llanrwst
Sing along
Older persons engagement officer Nerys Veldhuizen leads the singing
Dywedodd Nerys Veldhuizen, Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy, sy’n aml yn helpu Allison wrth arwain y canu, ei fod yn brawf cadarnhaol o sut y gall cerddoriaeth fod yn rhywbeth therapiwtig.
Meddai: “Mae’n rhyfeddol sut y gall dod yma a chael canu da roi hwb gwirioneddol i’ch hwyliau. Nid côr ydi hyn, does dim un ohonom yn gantorion gwych, ond pan rydyn ni’n rhoi’r cyfan gyda’n gilydd, rydyn ni rywsut yn llwyddo i swnio’n iawn.”
Yn dilyn ymlaen o lwyddiant y sesiynau yma mi wnaeth Nerys ychydig o ymchwil i gerddoriaeth fel therapi a modd o godi’r ysbryd.
Meddai: “Mae gwyddoniaeth wedi dangos ei fod yn gweithio, yn enwedig pan fydd pobl yn dod at ei gilydd fel rydyn ni’n ei wneud i fwynhau’r gerddoriaeth fel profiad cymdeithasol.
“Profwyd bod canu yn cryfhau’r system imiwnedd, mae’n gwella osgo, yn gostwng lefelau straen, yn hybu bywiogrwydd meddwl a phwerau cof, yn cynyddu hyder ac yn creu ymdeimlad o gymuned. Dyna’n union beth mae Allison a’n holl gyfranogwyr wedi’i greu yma yn Eglwys Sant Crwst.”
Yn wahanol i gôr does dim caneuon ffurfiol i’w canu nac ymarferion. Yn lle hynny, mae’r cyfranogwyr yn cyd-ganu i gerddoriaeth a lawrlwythwyd o ffôn a’i chwarae trwy uchelseinydd.
Dywedodd Nerys: “Rydym hefyd yn argraffu’r geiriau i ganeuon fel eu bod wrth law gan bobl os ydyn nhw eisiau. Ond os ydyn nhw’n hoffi cân nad oes gennym y geiriau iddi yna fe allwn ni ei chwarae beth bynnag.
“Pan ddechreuon ni i ddechrau dewisodd Allison a minnau gerddoriaeth roeddem ni’n meddwl y byddai cenedlaethau hŷn ymhlith ein tenantiaid yn ei hoffi, ond fe wnaethon ni ddarganfod yn gyflym fod eu chwaeth yn llawer mwy modern na’r gerddoriaeth a ddewiswyd gennym. Roedden nhw eisiau caneuon poblogaidd i godi calon.”
Ar frig y siartiau y mae caneuon fel ‘Sweet Caroline’, ‘Is this the way to Amarillo?’, ‘Don’t Worry, Be Happy’, ‘Sailing’, a ‘Delilah’.
Chwarddodd Nerys: “Un peth sy’n sicr, rydyn ni i gyd wrth ein bodd â thipyn o ABBA.”
Cartrefi Conwy St Grwst’s Church, Llanrwst Sing along Piet Botes and Keith Roberts singing in harmony
Mae’r ffrindiau Piet Botes a Keith Roberts yn gefnogwyr mawr i Tom Jones.
Daw Piet yn wreiddiol o Durban, De Affrica, ond mae wedi byw yn y DU ers 44 mlynedd. Dywedodd fod y sesiynau canu yn ei atgoffa o gyfarfodydd cymdeithasol tebyg pan oedd yn fachgen yn canu gyda ffrindiau a chymdogion yn ei dref enedigol yn Ne Affrica.
Meddai: “Un o fy ffefrynnau yw’r glasur Green Green Grass of Home gan Tom Jones, ond mae bob amser yn fy ngwneud yn eithaf emosiynol, felly mae’n rhaid i ni ddilyn y peth gyda chân sydd â mwy o fynd iddi fel Delilah.”
Cartrefi Conwy St Grwst’s Church, Llanrwst Sing along Keith Roberts singing ‘We are sailing’
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno yn y sesiynau canu gael rhagor o wybodaeth gan linell gymorth gwasanaeth cwsmeriaid Cartrefi Conwy ar 03001240040.