Mae tîm o dros 100 o staff mewn cymdeithas dai wedi cerdded, beicio, rhedeg a hyd yn oed hopian 25,000 milltir ar Her Rownd y Byd er budd hosbis.
Yn awr mae Cartrefi Conwy wedi trosglwyddo siec am gyfanswm rhagorol o £4,137 i Hosbis Dewi Sant yn Llandudno sy’n darparu gofal seibiant a gofal diwedd oes i gleifion o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Yn arwain y ffordd ac yn gwneud y cyflwyniad oedd y beiciwr brwd Kim Ashby a deithiodd dros 1800 milltir – sy’n cyfateb i farchogaeth o bencadlys Cartrefi Conwy yn Abergele i Sofia yn Rwmania.
Mewn diweddglo dramatig, llwyddodd o drwch blewyn i guro ei chydweithiwr Joe Palmer ar gyfer yr anrhydedd pellter unigol, gan ar daith gyda’r hwyr ar ddiwrnod olaf y digwyddiad a welodd Cartrefi Conwy yn rhoi 20c am bob milltir o gylchedd 24,900 milltir y Ddaear.
Dywedodd Kim, 29 oed, o Benmaenmawr sy’n feiciwr mawr: “Dechreuais feicio y llynedd mewn gwirionedd ac roedd cystadleuaeth dda rhwng Joe a fi ond mi wnes i ddarganfod ar y noson olaf ei fod wedi mynd heibio fy nghyfanswm.
“Felly mi es i allan tua hanner awr wedi 11 y nos a beicio i fyny ac i lawr y stryd y tu allan i wneud yn siŵr fy mod i’n ei guro ond roedd yn hwyl fawr ac fe wnaethon ni i gyd fwynhau’n arw.”
Dewis Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden, oedd mynd yr ail filltir i’r elusen drwy gerdded a llwyddodd i dramwyo 280 milltir arbennig dros yr achos ac meddai: “Mae wedi bod yn bleser pur gwneud hyn ar gyfer cyfleuster lleol mor ardderchog â Hosbis Dewi Sant ac mae llwyddo i godi’r swm hwn o arian yn wych.
“Yr un mor bwysig ar yr adeg anodd hon yw’r mwynhad a’r hwyl y mae cymryd rhan wedi’i roi i’n cydweithwyr a’r budd i’w ffitrwydd a’u lles – mae pawb yn y ddau sefydliad wedi bod ar eu hennill.
“Rwy’n hynod falch o’n pobl am eu hymdrechion a’r milltiroedd maen nhw wedi’u gwneud ac rwyf wir yn credu mai ni yw’r gymdeithas dai gyntaf sydd wedi cerdded y rownd y byd.”
Mae gan yr Hosbis, sydd ag 16 o welyau cleifion mewnol (yn Llandudno a Chaergybi), dwy ganolfan Therapi Dydd, gwasanaeth Hosbis yn y Cartref a gwasanaeth cwnsela, gyda chostau rhedeg blynyddol o dros £5 miliwn, ond mae wedi bod yn wynebu diffyg o £1 miliwn oherwydd bod y cyfnodau clo yn ystod y pandemig wedi ei gorfodi i gau ei siopau elusen a chanslo digwyddiadau codi arian.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Hosbis, Trystan Pritchard: “Mae Cartrefi Conwy yn un o’n cefnogwyr selog ers blynyddoedd ac maen nhw bob amser yn arloesol iawn yn y ffordd y maen nhw’n cynnig gwahanol heriau a doedd eleni ddim yn eithriad.
“Profodd yn syniad gwych ac yn amlwg daeth yn eithaf cystadleuol hefyd yn y ras i wneud y mwyaf o filltiroedd.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ni ac roeddem yn meddwl y byddem yn mynd i drafferthion ond mae’r gymuned leol wedi rhoi cefnogaeth wych ac rydym yn ddiolchgar i Cartrefi Conwy am y ffordd y maen nhw wedi taflu eu hunain i mewn i’r her hon.”
Diolchodd James Wilde, Codwr Arian Ardal Conwy Hosbis Dewi Sant, i dîm Cartrefi Conwy am fynd i’r afael â’r Her Fawr Awyr Agored ac meddai: “Mi wnaethon nhw osod targed mawr iawn iddyn nhw eu hunain yn enwedig pan mae’n anodd cadw pobl efo’i gilydd oherwydd y pandemig.
“Mae’n swm anhygoel i’w godi ac mae’n wych hefyd eu bod nhw wedi cael cymaint o fwynhad ohono. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’r cleifion a’u teuluoedd.”
Dywedodd Bill Hunt, tenant ac aelod o fwrdd Cartrefi Conwy: “Fe wnaeth eu hymateb wneud i mi deimlo’n wirioneddol falch o fy nghydweithwyr yn Cartrefi Conwy ac rwy’n siŵr ei fod wedi bod yn dda i’w hiechyd meddwl nhw hefyd.
“Mae’n wych gallu mynd allan yn ystod y dydd a gwella eu lles eu hunain a chryfhau cyfeillgarwch a chydweithrediad a gwneud hynny ar gyfer achos mor dda.”