Etholiad y Senedd 2021
Os wyt ti dros 16 oed ac yn galw Cymru yn gartref, defnyddia dy lais ar 6 Mai 2021 i bleidleisio yn Etholiad y Senedd.
Beth sy’n digwydd yn Etholiad y Senedd?
Ar 6 Mai 2021 bydd pobl Cymru yn penderfynu pwy fydd eu Haelodau o’r Senedd am y pum mlynedd nesaf. Mae pleidleisio yn Etholiad y Senedd yn gyfle i ti gael dweud dy ddweud ynghylch pwy sy’n dy gynrychioli di a dy gymuned yn y Senedd.
Bydd dy bleidlais yn penderfynu pwy fydd yn siarad ar dy ran yn y Senedd ac yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bob agwedd o dy fywyd.
Cofrestra i bleidleisio cyn 19 Ebrill
Beth yw rôl y Senedd?
Mae’r Senedd yn deddfu, yn pennu trethi ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.
Cofia ymweld â gwefan y Senedd am ragor o wybodaeth am yr etholiad neu ymuna gyda’n gweithdai addysgol rhad ac am ddim.