Mae’r peiriannydd Rebecca Davies yn arwain ymgyrch i ysbrydoli mwy o ferched i ddilyn yn ôl ei thraed.
Helpodd Rebecca, 30 oed, i chwalu’r syniadau ystrydebol ynghylch bod pob peiriannydd nwy yn ddyn trwy ddod yn aelod allweddol o’r tîm gyda chymdeithas dai Cartrefi Conwy.
Mae hi’n cyflawni gwaith hanfodol yn y miloedd o adeiladau y mae Cartrefi Conwy yn eu rheoli ledled sir Conwy.
Yn awr mae Rebecca yn helpu i ysbrydoli merched eraill i feddwl am ddilyn gyrfaoedd mewn swyddi sydd wedi cael eu gwneud yn draddodiadol gan ddynion, ar ôl bod yn siaradwr gwadd yn ystod cwrs Pasbort i Adeiladu i ferched yn unig.
Nod y cwrs, a gafodd ei gynnal gan Creu Menter, is-gwmni Cartrefi Conwy sydd wedi’i leoli ym Mochdre, ger Bae Colwyn, oedd dangos i ferched nad swyddi i fechgyn yn unig yw gweithio mewn meysydd fel adeiladu a pheirianneg.
“Roeddwn i’n hapus i gymryd rhan ac i siarad â’r cyfranogwyr ar y cwrs am yr hyn rwy’n ei wneud,” meddai Rebecca, 30 oed.
“Byddaf yn falch iawn o glywed os ydwyf wedi helpu rhywun i benderfynu ei bod eisiau gweithio mewn swydd fel hon.
“Mae pobl yn dal i feddwl yn ystrydebol am sut y dylai peiriannydd fod a synnu pan fydd merch yn troi i fyny ar garreg y drws, er ein bod wedi gwneud yr un cyrsiau â’r dynion i ddod yn beirianwyr cymwysedig.
“Gobeithio bod y cwrs Pasbort i Adeiladu wedi dangos i’r merched a gymerodd ran y gallan nhw fynd ymlaen a gweithio mewn swyddi fel fy un i.”
Bwriad Rebecca, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, ar y cychwyn oedd mynd i weithio fel bydwraig, swydd sydd fel arfer yn cael ei gwneud gan ferched.
Ond yn ddiweddarach, mi welodd fod ganddi’r potensial i ddod yn blymwr, gan benderfynu y byddai’n dechrau hyfforddi ar gyfer y gwaith ar ôl gadael yr ysgol.
Fodd bynnag, mi welodd Rebecca fod pobl yn codi amheuon am ei chynlluniau.
“Pan wnes i ddweud beth oeddwn am ei wneud, mi ddywedodd athro wrtha i na fyddwn i’n gallu gwneud y gwaith,” meddai Rebecca, o Lysfaen. “Roedden nhw’n credu mai dim ond dynion oedd yn gallu gwneud gwaith fel yna.
“Mi wnaeth hynny fy helpu i gael yr awydd i wneud y gwaith a’u profi’n anghywir.”
A dyna a wnaeth Rebecca. Cwblhaodd ei phrentisiaeth plymio yng Ngholeg Llandrillo, gan ddilyn hynny trwy gymhwyso fel peiriannydd nwy.
Mae hyn wedi ei galluogi i wneud ei swydd bresennol yn Cartrefi Conwy, lle mae hi wedi gweithio am saith mlynedd.
Mae’n gyfnod sydd wedi cyd-daro â Rebecca yn dod yn fam i Phoebe, sy’n dair oed.
“Rwy’n mwynhau gweithio i Cartrefi Conwy. Maen nhw bob amser wedi bod yn gefnogol,” meddai Rebecca, sy’n briod â Craig.
“Mae’n sefydliad sy’n rhoi lle canolog i’r teulu ac maen nhw wedi bod yn gefnogol ac yn feddylgar iawn ers i mi gael plentyn.
“Mae yna ddigon o waith i’w wneud bob amser. Mae hon yn adeg brysur o’r flwyddyn oherwydd y tywydd gwael, sy’n golygu bod yn rhaid gwneud llawer o waith trwsio brys.”
Mae Creu Menter wedi helpu dwsinau o bobl i ddod o hyd i waith yn ystod y misoedd diwethaf.
Cafodd ei enwi fel y cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau Twf Cyflym 50 2020 Cymru, yn dilyn cyfnod cyflym o ehangu.
“Mae’r diwydiant adeiladu yn ffynnu ac mae’r cwrs yn cynnig cyfle i bobl fynd yn eu blaenau a dod o hyd i waith yn y diwydiant,” ychwanegodd Sioned.
“Bydd y cwrs yn agored i unrhyw un sy’n byw yn sir Conwy, cyhyd â’u bod yn awyddus i gymryd rhan ac ychydig yn chwilfrydig am yr hyn sydd gan y diwydiant adeiladu i’w gynnig.”
Mae Sioned yn arbennig o ddiolchgar am gyfraniad Brenig Construction, sydd wedi caniatáu i fynychwyr y cwrs gael blas ar y gwaith y maen nhw’n ei wneud.
“Rydyn ni’n wirioneddol ffodus i gael perthynas mor rhagorol efo Brenig,” meddai Sioned.
“Maen nhw wedi bod yn hollol wych ac wedi mynd allan o’u ffordd i helpu pawb ar y cwrs i weld sut beth yw gweithio yn y diwydiant adeiladu.”