Gwobrau Celfyddydau&Busnes Cymru 2023.

Gwobrau Celfyddydau&Busnes Cymru 2023.

Mae prosiect ‘Dyma Fi’ Cartrefi Conwy mewn cydweithrediad ag Oriel Colwyn ymhlith y mentrau cydweithredol creadigol a phellgyrhaeddol sydd ar restr fer Gwobrau C&B Cymru 2023.

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu ar 23 Mawrth 2023.

Am y prosiect

Fel rhan o brosiect ‘Dyma Fi’  daeth tenantiaid Cartrefi Conwy yn enwogion am y diwrnod. Syniad Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn oedd y prosiect. Mewn partneriaeth â Nerys Veldhuizen, cyn Gydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy, eu gweledigaeth oedd rhoi cyfle i denantiaid hŷn ddisgleirio ac adrodd eu stori. Tynnwyd llun y cyfranogwyr yn eu cartrefi eu hunain gan y ffotograffydd portreadau enwog Niall McDiarmid. Nid ffotograff yn unig oedd y portreadau hyn ond roeddent yn rhan o stori’r tenant. Roedd pob llun yn cynnwys eitem a oedd yn werthfawr i’r tenant. Roedd y portreadau hyn yn rhan o lyfr stori i ddod â’r ffotograffau’n fyw.

Cartrefi Conwy ; This is me project; Cartrefi Conwy tenants Kate Taplin and David Emmins with photographers Paul Sampson and Niall McDiarmid. Picture Mandy Jones

Disgleirio golau

Dywedodd Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn: “Roeddem am daflu goleuni ar hanesion bywyd aelodau hŷn y gymuned ac arddangos rhai o’u straeon anhygoel. Y nod oedd amlygu faint maen nhw wedi’i gyfrannu at y gymuned rydyn ni’n byw ynddi heddiw a faint maen nhw’n dal i gyfrannu at gymdeithas.”

Cytunodd Nerys ei bod hi’n bryd i aelodau hŷn y boblogaeth gael cyfle dan y chwyddwydr.

Meddai: “Yn rhy aml pan fydd pobl yn heneiddio, maent yn dod yn anweledig i lygaid iau. Mae pobl mor bryderus â’u bywydau a’u gweithgareddau eu hunain fel y gallant anghofio bod gan y genhedlaeth hŷn rôl hanfodol o hyd wrth helpu i wneud i gymuned ffynnu a bod ganddynt ddiddordebau, hobïau, breuddwydion ac uchelgeisiau o hyd, dim bwys beth yw eu hoedran.

“Fe wnaethon ni alw’r arddangosfa Dyma Fi oherwydd dyma oedd eu cyfle i ddangos pwy ydyn nhw, beth ydyn nhw a dangos beth sy’n bwysig iddyn nhw.”

Ysbrydolwyd y teitl gan y gân boblogaidd This is Me o’r sioe gerdd lwyddiannus The Greatest Showman a ddywedodd Paul ei bod yn “hynod gymwys” o ystyried bod Oriel Colwyn wedi’i lleoli mewn theatr glasurol.

Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gyllid Cam Diwylliant ac rydym yn hynod ddiolchgar i Celfyddydau a Busnes Cymru am gefnogi’r prosiect.

Cartrefi Conwy ; This is me project; Cartrefi Conwy tenants Kate Taplin and David Emmins with a photograph of their Grandson Zack. Picture Mandy Jones

Category: Cartrefi News