Mae Cartrefi Conwy wedi bod yn gweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill a thenantiaid ledled Cymru i greu eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.
Gwnaeth pandemig COVID-19 ysgogi cydweithredu ar draws Cymru i gynnig profiad digidol newydd i denantiaid. Crewyd eCymru gan wybodaeth, sgiliau a phrofiadau unigolion o bob rhan o Gymru, i sicrhau bod y porth yn ateb adhesion amrywiol y cymunedau mae’n eu gwasanaethu ac i’w wneud yn hawdd i ddysgwyr ei ddefnyddio.
Profwyd a datblygwyd y porth trwy gynnal digwyddiadau treialu fel gweminarau llwyddiannus gan Gymunedau Digidol Cymru, ar bynciau yn amrywio o siopa’n ddiogel ac arbed arian i iechyd a llesiant digidol, a chafwyd perfformiad byw gan Gôr Meibion y Barri.
Mae eCymru wedi llunio partneriaeth â’r Brifysgol Agored i gynnig ystod o gyrsiau ar-lein am ddim ym meysydd celf a chrefft, addysg, ffitrwydd ac iechyd.
Mae eCymru yn weithredol nawr, gan roi’r cyfle i chi fod yn rhan o ddigwyddiadau, manteisio ar gyfleoedd dysgu electronig a rhagor. Os hoffech chi weld beth sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan: www.ecymru.co.uk