Mae criw o bobl ifanc wedi bod yn gwneud tipyn o sblash ar lan y môr mewn sesiynau chwaraeon dŵr am ddim.
Cymerodd hanner cant o bobl ifanc rhwng wyth a 14 oed, pob un yn blant i denantiaid cymdeithas dai Cartrefi Conwy, ran yng nghynllun Clwb Traeth yr haf yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn.
O ganlyniad, cafodd y criw ifanc gyfle i roi cynnig ar lu o wahanol chwaraeon dŵr gwahanol, gan gynnwys syrffio gwynt, padl-fyrddio, adeiladu rafftiau, hwylio a gemau traeth.
Roedd y cynllun yn bosibl diolch i grant gan Gronfa Cist Gymunedol Cartrefi Conwy yn ogystal â Chronfa Gymunedol Warburton’s Bakery.
Dywedodd Isabelle Quayle, wyth oed, o Fae Cinmel: “Roeddwn i eisiau dod i roi cynnig ar y gwahanol chwaraeon dŵr. Rwy’n falch fy mod i wedi dod yma mae’n llawer gwell na gwylio’r teledu.”
Dywedodd Alfie Thackery, 10 oed, o Lanfairfechan, sy’n mynd i Ysgol Pant y Rhedyn: “Mae wedi bod yn anhygoel. Fe wnes i fwynhau’r byrddau padlo a’r hwylio yn fawr. Mae’n syniad gwych ac fe wnaeth fy nghadw i rhag chwarae gemau cyfrifiadur trwy’r dydd. Yn lle hynny rydw i wedi cael llawer o hwyl yma. Mae’r siwtiau gwlyb yn anhygoel ac yn eich cadw’n gynnes.
“Roedd cinio yn dda hefyd ac mae’r traeth wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn ddiwrnod ffantastig, un o’r dyddiau gorau yn y gwyliau ysgol.”
Dywedodd Jack Thackery, brawd Alfie, 11 oed, sydd hefyd yn mynd i Ysgol Pant y Rhedyn: “Rydw i wrth fy modd yn gwneud ffrindiau newydd ac rydw i wedi cyfarfod efo rhai pobl dda iawn heddiw ac rydw i’n mynd i aros yn ffrindiau hefo nhw er nad ydyn nhw’n dod o Lanfairfechan.
“Rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored ac adref rydw i bob amser allan yn y parc neu’n gwneud pethau fel chwarae pêl-droed. Mae’n grêt ein bod wedi gallu rhoi cynnig ar yr holl chwaraeon newydd hyn am ddim.”
Dywedodd Megan Taylor-Rose, swyddog ymgysylltu cymunedol Cartrefi Conwy: “Mae’r bobl ifanc, sydd i gyd yn byw yn ein heiddo ar draws y rhanbarth, wedi mwynhau rhoi cynnig ar hwyl fyrddio, adeiladu rafftiau, hwylio a gemau traeth. Mae’r sesiynau am ddim a darperir cinio i’r bobl ifanc hefyd.
“Y syniad yw rhoi cyfle i’n tenantiaid ifanc roi cynnig ar wahanol weithgareddau awyr agored a hefyd dangos iddyn nhw fod eu traeth lleol ym Mae Colwyn yn ased mor ardderchog i’r rhanbarth.
“Rydan ni’n gwybod bod gennym ni lawer o bobl ifanc yn byw yn yr ardal nad ydyn nhw’n mynd i’r traeth yn aml, os o gwbl, sy’n drueni mawr.
“Mae’r cynllun hwn hefyd wedi rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n dod o Fae Cinmel, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llanfairfechan a Llandudno wneud ffrindiau newydd, magu hyder ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ar yr ystadau tai lle maen nhw’n byw.
“Rydw i wrth fy modd bod y cynllun wedi profi mor boblogaidd ac mae’r bartneriaeth gyda Chanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn yn gweithio’n rhagorol. Mae ein tenantiaid ifanc wedi ymuno â’u cleientiaid ifanc nhw sydd wedi rhoi cyfle i bawb greu mwy o ffrindiau newydd.”
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn, Taffy Osborne: “Rydym yn cynnal digwyddiadau Clwb Traeth trwy gydol yr haf. Ein cynnyrch ni ydi o ac mae Cartrefi Conwy wedi partneru gyda ni i ddarparu pum diwrnod o ddigwyddiadau Clwb Traeth gyda 10 lle ar gael dros bum niwrnod.
“Rydyn ni wedi rhoi cyflwyniad i’r bobl ifanc i hwyl fyrddio, adeiladu rafftiau, hwylio ac amrywiaeth o gemau traeth. Rydym hefyd yn darparu siwtiau gwlyb a chymhorthion arnofio.
“Mae Cartrefi Conwy wedi darparu cinio am ddim i’w tenantiaid ifanc. Mae wedi bod yn wych gweld yr holl leoedd yn cael eu llenwi a’r bobl ifanc hyn yn cael amser arbennig.”
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi gweithio gyda Cartrefi Conwy i redeg y cynllun hwn sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus a gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.”