Teyrnged farddol Archdderwydd i gadair unigryw a fwriadwyd i ymladd unigrwydd

Teyrnged farddol Archdderwydd i gadair unigryw a fwriadwyd i ymladd unigrwydd

Mae bardd pwysicaf Cymru wedi talu teyrnged farddol i gadair unigryw sydd wedi’i chynllunio i ymladd unigrwydd trwy annog pobl i eistedd i lawr a siarad gyda’i gilydd.

Mae’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi ysgrifennu englyn arbennig i ganu clod y Gadair Sgwrs a gafodd ei dadorchuddio gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy heddiw (dydd Mawrth, Awst 6) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Cafodd y gadair ei chreu gyda chymorth tenantiaid Cartrefi Conwy a phlant ysgol lleol, dan arweiniad yr artist blaenllaw Catrin Williams a’r gwneuthurwr dodrefn pwrpasol Rhodri Owen.

Mae’r prosiect hwn sy’n pontio’r cenedlaethau wedi bod yn bosibl trwy gael ei gyllido’n rhannol gan raglen CultureStep Celfyddyd a Busnes Cymru.

Canmolodd Myrddin ap Dafydd y Gadair Sgwrs fel ffordd o hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.

Meddai: “Rwy’n credu bod hwn yn syniad gwych. Rwyf wrth fy modd efo’r ffaith bod y gadair yn cael ei denfyddio fel cyfrwng i annog sgwrsio, rhywbeth sy’n asio mor dda efo’r Eisteddfod Genedlaethol, lle mae gan gadeiriau arwyddocâd symbolaidd mawr.”

Yn dilyn yr Eisteddfod bydd y Gadair Sgwrs yn cael ei gosod am gyfnodau penodol mewn lleoliadau hygyrch ar ystadau tai a reolir gan Gartrefi Conwy.

Y bwriad yw i’r gadair ddod yn symbol o gyfeillgarwch, yn destun siarad, gan gymell pobl i eistedd i lawr, cael sgwrs, gwneud ffrindiau a chymdeithasu.

Ychwanegodd Myrddin, a gafodd ei fagu yn Llanrwst, gan fydn ymlaen i sefydlu cwmni cyhoeddi Gwasg Carreg Gwalch ac ysgrifennu nifer o gerddi a llyfrau plant yn y Gymraeg: “Rwy’n credu y bydd y syniad o leoli’r gadair mewn gwahanol rannau o’r gymuned leol yn ffordd hyfryd o gymell pobl i siarad.”

“Fy ysbrydoliaeth ar gyfe ryr englyn oedd yr hen ddywediad am sgwrs yn llifo fel afon. Gan fod yr Afon Conwy yn rhedeg trwy Lanrwst roedd yn ymddangos i mi ei bod yn cyd-fynd yn berffaith gyda thema cynhwysiant cymdeithasol.

“Gobeithio y bydd pobl sy’n ei gweld ac yn eistedd ar y Gadair Sgwrs yn gallu sgwrsio, rhannu eu meddyliau a chwerthin mor rhydd ag y mae’r afon yn llifo.”

Mae’r gadair liwgar wedi’i gorchuddio ag arwyneb allanol syfrdanol, sef casgliad o dros 80 o weithiau celf a grëwyd gan denantiaid cymdeithasau tai Cartrefi Conwy a Clwyd Alyn, aelodau o grŵp Sied Dynion Llanrwst, a disgyblion Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst.

Mae wedi ei gwneud allan o ddeunyddiau polystyren a gwydr ffibr sy’n dipyn o newid cyfeiriad i’r saer coed a’r gwneuthurwr dodrefn Rhodri, o Ysbyty Ifan, a fu hefyd yn gyfrifol am saernïo Cadair Farddol Eisteddfod Genedlaethol 2017. Oherwydd yn draddodiadol mae’n gweithio gyda phren.

Dyluniodd y gadair mewn cydweithrediad â’r artist Catrin Williams, sy’n aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig, ac sy’n byw ym Mhen Llŷn.

Mae Catrin yn rhannu ei hamser rhwng rhedeg cyrsiau celf a chynhyrchu ei gwaith ei hun. Fe’i comisiynwyd gan Cartrefi Conwy i weithio gyda thua 20 o denantiaid a gwirfoddolwyr eraill a gytunodd i helpu gyda phrosiect Cadair Sgwrs.

Dros y misoedd diwethaf maent wedi bod yn cyfarfod yn nhai Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir, Llanrwst, i gynhyrchu detholiad o waith celf gafodd ei gasglu ynghyd weydn i ffurfio’r dyluniad cyffredinol unigryw sydd bellach wedi’i osod yn barhaol ar y gadair. Mae  gwaith celf y grŵp wedi’i seilio ar themâu allweddol sy’n cynrychioli yr hyn sy’n eu gwneud yn hapus a beth mae cymuned yn ei olygu iddyn nhw.

Dywedodd Catrin: “Mae arwain y grŵp hwn a helpu pobl i ddarganfod eu talent artistig naturiol wedi bod yn brofiad cyfoethog iawn i mi’n bersonol.”

Cafodd Rhodri Owen ei ysbrydoli i ddefnyddio polystyren a gwydr ffibr gan ei ddiddordeb mewn byrddio syrffio.

Meddai: “Rwy’n hoffi gwneud rhywbeth gwahanol a rhoi cynnig ar syniadau newydd, dyfeisgar felly roedd hon yn ffordd hwyliog o wneud hynny. Defnyddiais yr un math o broses a ddefnyddir i wneud byrddau syrffio patrymog. Cynhyrchwyd dros 80 darn o gelf ac rwy’n credu fy mod i wedi llwyddo i gael y rhan fwyaf ohonyn nhw ar y gadair. Rydym i gyd yn falch iawn efo’r canlyniad terfynol.”

Dywedodd Rachel Jones, prif weithredwr Celfyddydau a Busnes Cymru: “Roedd Celfyddydau a Busnes Cymru yn falch iawn o fuddsoddi yn y Gadair Sgwrs a chefnogi’r bartneriaeth gref a chreadigol rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Cartrefi Conwy. Gwnaeth ymagwedd gynhwysol ac arloesol y prosiect argraff fawr ar banel CultureStep, sy’n ennyn diddordeb pobl a chymunedau lleol yn uniongyrchol mewn ffordd mor bellgyrhaeddol.”

Wrth fynychu achlysur dadorchuddio’r gadair yn yr Eisteddfod, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae hwn yn brosiect partneriaeth gwych ac yn un y gall pawb sydd wedi ymwneud ag ef fod yn falch ohono.

“Mae hyn yn dangos y ffordd bwerus y gall Celf ddod â phobl ynghyd – a gobeithio y bydd y Gadair Sgwrs yn parhau i ddod â phobl at ei gilydd wrth iddo deithio ar hyd gogledd Cymru.

“Mae hefyd yn bleser gweld bod y gadair hefyd yn cofnodi gwaith fy nghyfoedion.”

Dywedodd un o breswylwyr Cartrefi Conwy fu’n ymwneud â chreu’r gwaith celf Annabella Orr, o Scotland Street, Llanrwst: “Rwyf mor falch fy mod i wedi cael cyfle i fod yn rhan o hyn. Dim ots i ble mae’r gadair yn mynd, byddwn bob amser yn gallu dweud ein bod wedi chwarae rhan wrth ei gwneud. Ac mae’r rheswm dros ei chreu, sef ymladd unigrwydd, mor bwysig.

“Rwy’n teimlo’n hynod lwcus fy mod i wedi bod yn rhan o hyn ac wedi gwneud rhai ffrindiau newydd da o’i herwydd.”

Dywedodd un arall o breswylwyr Cartrefi Conwy, Tilly Goodwin, 79 oed, hefyd o Scotland Street, y mae ei gwaith celf yn ymddangos ar y gadair: “Mae helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd mewn ffordd mor newydd yn syniad gwych.

“Mae cymaint o bobl y dyddiau hyn yn byw ar eu pennau eu hunain heb weld enaid byw trwy gydol y dydd. Gall rhai o’r bobl yma fod yn eithaf swil neu dawedog ac efallai na fyddent yn hoffi ymuno efo grŵp, ond mae hon yn ffordd mor syml iddynt gyfarfod â chymdogion a gwneud ffrindiau dim ond trwy eistedd gyda’i gilydd ar gadair. Mae’r ffaith ei bod wedi’i orchuddio â’n holl waith celf yn rhoi testun sgwrs i bobl yn syth.”

Cyflwynwyd anrhegion o badiau braslunio a deunyddiau celf i bob aelod o’r grŵp celf ac fel y dywedodd Nerys Veldhuizen, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy: “Mae wedi bod yn brosiect hyfryd i weithio arno oherwydd ei fod eisoes wedi dwyn pobl ynghyd a chreu sawl cyfeillgarwch newydd.

“Mae’n argoeli’n dda bod y Gadair Sgwrs hefyd wedi dod yn destun trafod yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gobeithiwn y bydd yn arf effeithiol wrth helpu i ymladd unigrwydd yn ein cymunedau.”

Dywedodd Gwynne Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy: “Mae’r tenantiaid a’r plant wedi cynhyrchu darnau celf sy’n darlunio’r hyn sy’n eu gwneud yn hapus a beth y mae cymuned yn ei olygu iddyn nhw.

“Credwn y bydd y Gadair Sgwrs yn cryfhau cymunedau trwy adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a galluogi pobl o wahanol gefndiroedd ac oedrannau, na fyddent efallai yn cyfarfod fel arall, i ddod at ei gilydd a ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch.”

 

Englyn Myrddin ap Dafydd i’r Gadair Sgwrs:

Sgwrsio’n braf fel lli’r afon – a chreu cylch
O’r cof a’r hanesion;
Daw Conwy drwy’r gadair hon
A gwêl ysgafnu’r galon.

 

Category: Cartrefi News