Camodd cymdeithas dai i’r adwy fel y pêl-droediwr a’r ymgyrchydd prydau bwyd am ddim Marcus Rashford i fwydo plant ar ystâd o dai dros y gwyliau hanner tymor.
Addawodd Cartrefi Conwy ddarparu prydau poeth fel rhan o’r gweithgareddau gwyliau a drefnir gan Glwb Ieuenctid Tŷ Llywelyn ar ystâd Tre Cwm yn Llandudno.
Ar ôl i’r gweithgareddau gael eu cwtogi gan gyfnod clo dros dro Llywodraeth Cymru, sicrhaodd y sefydliad bod y bobl ifanc yn dal i dderbyn eu prydau bwyd am ddim a’u bod yn gallu eu casglu fel pryd tecawê bob amser cinio diolch i gyllid gan Cartrefi Conwy.
Yn ystod wythnos gyntaf y gwyliau, roedd y bobl ifanc yn gallu mwynhau sesiynau celf a chrefft, gemau a chwaraeon.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ystâd 400 o dai wedi cael ei thrawsnewid gan weddnewidiad gwerth £4.3 miliwn i uwchraddio’r eiddo a rhaglen sylweddol i wella’r amgylchedd hefyd.
Dywedodd Megan Eldon, Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned Cartrefi Conwy: “Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr yng Nghlwb Ieuenctid Tŷ Llywelyn yng nghanolfan gymunedol yr ystâd, sydd wedi llunio amrywiaeth o weithgareddau gan roi rhywbeth hwyliog i blant i’w wneud yn ystod hanner tymor.
“Ond roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig i les y plant sy’n mynychu’r Clwb Gwyliau eu bod hefyd yn gallu mwynhau prydau poeth.
“Yn anffodus, gan nad oeddem yn gallu cynnal yr ail wythnos o weithgareddau fel yr oeddem wedi’i fwriadu oherwydd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru, mi wnaethon ni benderfynu barhau i ddarparu prydau poeth. Cysylltwyd â rhieni a rhoddwyd amseroedd penodol iddyn nhw i ddod i nôl y prydau bwyd o’r ganolfan gymunedol.”
Ychwanegodd: “Mae’n hanfodol ein bod ni’n gofalu am blant sy’n byw ar ystâd Tre Cwm ac roeddem yn teimlo bod cael pryd poeth yn rhywbeth pwysig iawn. Rhaid i ni hefyd ddiolch i Llandudno Lions a roddodd gyfraniad ariannol tuag at gost y bwyd.
“Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae’n bechod ein bod wedi gorfod cwtogi ar yr ail wythnos o weithgareddau oherwydd pandemig Covid-19.”
Mi wnaeth Andrew Sturdy, cymhorthydd dysgu yn Ysgol Craig y Don sydd hefyd yn helpu i redeg Clwb Ieuenctid Tŷ Llywelyn, roi help llaw i gynnal y Clwb Gwyliau.
Meddai: “Mae’r clwb gwyliau hanner tymor mewn gwirionedd yn estyniad o Glwb Ieuenctid Tŷ Llywelyn. Mae’n gyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd a mwynhau gweithgareddau amrywiol gan gynnwys celf a chrefft, gwneud barcud, chwarae gemau fideo neu gymryd rhan mewn chwaraeon.
“Pan fydd y tywydd yn garedig, byddwn yn chwarae criced, rownderi, golff, ‘dodgeball’ ac weithiau pêl-droed. Rydyn ni’n ceisio peidio chwarae gormod o bêl-droed gan fod y plant yn gallu chwarae hynny unrhyw bryd.
“Mi wnaethon ni ddechrau’r cynllun yn ystod gwyliau’r haf tua tair blynedd yn ôl ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Mae tua 20 o bobl ifanc yn dod draw i bob sesiwn.”
Ychwanegodd: “Yn ystod gwyliau’r haf rydyn ni’n ceisio mynd ar wibdaith i lefydd fel Bounce Below. Ac yn y gorffennol rydym wedi cael arian gan Plant Mewn Angen wrth i ni gynnal gweithgareddau fel pecynnau bagiau i godi ychydig o arian ein hunain.
“Mae’n wych, diolch i Cartrefi Conwy, ein bod ni’n gallu rhoi pryd poeth i bob person ifanc sy’n dod i’r sesiynau. Ac mae’r prydau’n cynnwys pasta, pizza, bysedd pysgod, selsig neu fyrgyrs.
“Mae hi mor bwysig er lles y plant ac rwy’n ddiolchgar iawn i Cartrefi Conwy a Llandudno Lions am wneud hyn yn bosibl ac am ganiatáu i Megan Eldon dreulio’r pythefnos gyda ni yn helpu allan.”
Mae Keren Humphreys, sy’n byw ar ystâd dai gerllaw Tre Cwm, yn gwirfoddoli fel cogydd yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn a dywed ei bod hi wedi mwynhau paratoi prydau bwyd i’r bobl ifanc hynny sy’n mynychu’r Clwb Gwyliau.
Meddai: “Fel rheol, rydw i’n gwirfoddoli yn y ganolfan gymunedol gan wneud paneidiau o de a choffi yn y caffi. Ond mae wedi bod yn wych gwneud prydau bwyd i’r bobl ifanc. Mae yna amrywiaeth o brydau poeth ar gael ac rydyn ni wedi creu bwydlen ar gyfer y ddwy wythnos.
“Gall plant, os ydyn nhw eisiau, gael brechdan ond mae’n well gennym iddyn nhw gael pryd poeth. Mae’n biti nad oedd yn bosib cynnal y gweithgareddau yn yr ail wythnos ond rydyn ni’n dal i baratoi prydau bwyd a chysylltu â rhieni fel bod y plant yn gallu eu casglu trwy drefniant ymlaen llaw.”
Dywed Violet Sturdy, 14 oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol John Bright, fod pandemig Coronafeirws wedi bod yn erchyll ond o leiaf roedd y clwb gwyliau wedi bod yn rhywle i gyfarfod efo ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Meddai: “Rwy’n mwynhau gemau fideo a chyfarfod efo fy ffrindiau. Mae’n well na gwylio’r teledu trwy’r dydd. Gan fod fy nhad yn helpu i redeg y clwb ac yn coginio rhywfaint ar nosweithiau clwb ieuenctid, fedra i ddim dweud bod y bwyd yn ddrwg!
“Ond mae’n syniad da gwneud yn siŵr bod pawb sy’n dod yn cael pryd poeth. Rwy’n adnabod rhai plant sy’n dod yma fyddai ddim yn cael un fel arall, nid amser cinio beth bynnag.”
Ychwanegodd Millie Thomas, naw oed, sy’n mynychu Ysgol Craig y Don: “Rydw i hefyd yn hoffi’r cinio. Pizza yw fy hoff bryd bwyd. Mae’n dda gallu cael rhywbeth i’w fwyta tra rydyn ni yma efo’n ffrindiau.
“Mae’r feirws wedi bod yn ofnadwy ac wedi ein stopio ni rhag gwneud pethau. Rwy’n falch iawn fy mod i’n gallu dod yma.”
Roedd Rhys Hughes-Bell, 10 oed, sy’n mynychu Ysgol Tudno, yr un mor frwd.
Meddai: “Rydw i wedi bod yn dod i’r clwb ieuenctid ers pan oeddwn i’n wyth oed. Rwy’n mwynhau gwneud celf a chrefft yn fawr, mae’n siŵr ei fod yn well nag eistedd adre yn chwarae ar fy Xbox trwy’r dydd.
“Mae’r bwyd yn wych; mae bysedd pysgod a byrgyrs yn grȇt ac mae’n well na Pot Noodle. Rwy’n credu bod pawb sy’n dod yma yn hoffi’r bwyd.”