Rob y cyn-olygydd yn ysgrifennu pennod newydd wrth ymuno gyda byddin gwirfoddolwyr llês

Rob y cyn-olygydd yn ysgrifennu pennod newydd wrth ymuno gyda byddin gwirfoddolwyr llês

Mae cyn-olygydd papur newydd blaenllaw wedi ymuno â byddin o wirfoddolwyr sy’n helpu pobl fregus i oroesi’r argyfwng coronafeirws.

Mae Rob Irvine, 54 oed, yn gwneud galwadau wythnosol i denantiaid Cartrefi Conwy sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi yn ystod y pandemig.

Mewn gyrfa 30 mlynedd fel newyddiadurwr, treuliodd Rob saith mlynedd fel golygydd y Daily Post a chwe blynedd arall fel golygydd y Manchester Evening News ac mae bellach yn hyfforddi i ddod yn gwnselydd a therapydd.

Dywed iddo ymuno â’r Prosiect Lles oherwydd ei fod yn byw yng Nghonwy ac eisiau helpu’r gymuned yn ystod yr argyfwng iechyd digynsail presennol.

Sefydlwyd y cynllun gwirfoddolwyr ym mis Mawrth gan Creu Menter, is-gwmni Cartrefi Conwy, fel ffordd o sicrhau bod gan denantiaid, yn enwedig y rhai a oedd yn cysgodi oherwydd cyflyrau iechyd gwaelodol, rywun i siarad â nhw a chasglu cyflenwadau neu bresgripsiynau hanfodol pe bai angen cymorth arnynt.

Cafodd gwirfoddolwyr, gan gynnwys Rob Irvine, eu recriwtio er mwyn ffonio tenantiaid bob wythnos i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn, a oedd angen unrhyw beth arnynt neu os oeddent eisiau rhywun i siarad â nhw.

Mi wnaeth gwirfoddolwyr eraill fel y gwas sifil wedi ymddeol Jon Young, 63 oed, o Abergele, gynnig help llaw fel gyrwyr, gan ddosbarthu neges siopa, presgripsiynau a phethau hanfodol eraill i denantiaid sydd angen cefnogaeth.

Ymhlith y tenantiaid sy’n derbyn galwadau wythnosol gan Rob mae Alun Humphreys, 66 oed, o Landudno, sydd wedi byw gyda’i wraig, Sylvia, yn yr un eiddo yn Llandudno am dros 35 mlynedd.

Meddai: “Mae Sylvia wedi ymladd canser ddwywaith ac wedi gorfod cael cemotherapi a radiotherapi ac er bod y canser bellach wedi cilio, mae ganddi system imiwnedd wan iawn sy’n golygu y bu’n rhaid iddi gysgodi ers dechrau’r pandemig.

“Mae ein mab sy’n oedolyn yn byw gyda ni ac yn help mawr ac mae gennym ferch sy’n byw yng Nghyffordd Llandudno sydd hefyd wedi bod yn help mawr. Mi gafodd ein hail ŵyr ei eni ychydig cyn y cyfnod clo a oedd yn golygu na allai Sylvia weld y babi nes ei fod tua thri mis oed. Dim ond lluniau o’r babi y gallai hi eu gweld.

“Mae wedi bod yn bryder edrych ar ôl Sylvia, a fi yw ei gofalwr cofrestredig. Rydw i’n byw mewn ofn y bydd hi’n dal Covid-19 a, coeliwch chi fi, rydw i wedi glanhau’r tŷ yn drylwyr ofnadwy o’r top i’r gwaelod.”

Ychwanegodd: “Mae gennym gylch da o ffrindiau ond roedd yn braf gwybod bod rhywun allan yna a oedd yn meddwl amdanom a bod Cartrefi Conwy yn gofalu hefyd.

“Cefais fy synnu braidd pan ffoniodd Rob gyntaf ond yn fuan iawn mi wnes i werthfawrogi’r ffaith ei fod yn cysylltu bob wythnos, fel mae’n dal i wneud, i weld sut mae pethau’n mynd a sut rydym yn ymdopi.

“Mae ganddo ffordd hyfryd ac ni allech fethu â chael argraff dda ohono. Mae fel cael brawd neu chwaer i siarad efo chi, fel aelod o’r teulu.

“Rwy’n gwybod pan fydd Rob yn ffonio y gallaf siarad yn gyfrinachol ac ni fyd dyn mynd dim pellach. Gallaf drafod problemau neu siarad am fy mhryderon am Sylvia a’n hiechyd gyda’r pandemig a bydd yn gwrando. Mae cael Rob yn galw i gadw golwg arnom a bod yno am sgwrs wedi bod o gymorth mawr.

Gall galwad gan Rob barhau unrhyw beth rhwng pum ac 20 munud. Nid yw byth yn rhuthro. Ac fe roddodd ei rif i mi felly gallaf ei ffonio unrhyw bryd am sgwrs os byddaf angen. Mae’n wasanaeth rhyfeddol sydd wedi rhoi llawer o hyder i mi.”

Yn ôl Rob Irvine, mae’r Prosiect Lles yn rhoi cyfle iddo roi ychydig o’i sgiliau newydd ar waith.

Meddai: “Unwaith y dechreuodd y sefyllfa gyda Covid-19 roeddwn i eisiau gwirfoddoli i wneud rhywbeth i helpu. Roeddwn i’n meddwl y gallwn ddefnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu trwy fy hyfforddiant i fod yn gynghorydd at ddefnydd da.

“Clywais am y Prosiect Lles a’r gwasanaeth i denantiaid Cartrefi Conwy ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn addas dros ben.

“Mae wedi bod yn rhywbeth gwerth chweil iawn a llawn hwyl i’w wneud. Mae’n golygu mwy na sicrhau bod gan bobl fregus fwydydd a meddyginiaeth hanfodol, mae’n golygu cynnig clust i wrando.

“Mae wedi mynd ymhellach serch hynny. Er nad wyf wedi cyfarfod â rhai tenantiaid wyneb yn wyneb rwyf bellach yn eu hadnabod yn dda ac yn cyfrif rhai ohonynt fel ffrindiau go iawn. Rydyn ni’n rhannu llawer o’n meddyliau am argyfwng iechyd Covid-19 ond rydyn ni hefyd yn siarad am bryderon ac ofnau eraill.

“Mae’n golygu neilltuo awr neu ddwy yr wythnos o fy amser ond mewn gwirionedd mae’n rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato, rydw i wir yn ei fwynhau ac yn edrych ymlaen at ffonio pobl.

Dywed ei gyd-wirfoddolwr Jon Young, swyddog iechyd a diogelwch wedi ymddeol sydd hefyd yn gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ac sy’n ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, iddo ymuno fel gyrrwr gyda’r Prosiect Lles ym mis Mehefin cyn gynted ag y clywodd am y prosiect.

Meddai Jon, sy’n byw yn Abergele: “Rwyf wedi mynd o gwmpas yr ardal ers mis Mehefin, yn danfon pob math o bethau i denantiaid bregus Cartrefi Conwy. Yn bennaf, bwydydd, presgripsiynau a pharseli bwyd, ac rwyf hyd yn oed wedi casglu teclyn cymorth clyw o’r ysbyty a’i ddosbarthu i denant.

“Mae’r rhan fwyaf o’r tenantiaid rydw i wedi galw heibio iddynt yn oedrannus neu’n hunan ynysu oherwydd cyflyrau meddygol gwaelodol.”

Dywedodd Richard Chance, cydlynydd y Prosiect Lles: “Mae gennym 10 gwirfoddolwr gyda rhai yn gwneud galwadau ffôn wythnosol i denantiaid bregus ac eraill yn mynd allan ac yn dosbarthu parseli bwyd, yn casglu neges siopa a meddyginiaethau presgripsiwn neu unrhyw beth arall sydd ei angen ar frys arnynt.

“Mae’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud galwadau yn adeiladu cyfeillgarwch go iawn efo tenantiaid. Mi wnes i ffonio ar ran un gwirfoddolwr nad oedd yn gallu gwneud ei alwadau un diwrnod ac roedd pob tenant y gwnes i siarad efo nhw yn holi ble roedd ei galwr arferol a sut oedden nhw.

“Rwy’n credu bod hynny’n dangos pwysigrwydd y cynllun a sut mae gwirfoddolwyr yn adeiladu perthynas go iawn ac ystyrlon efo tenantiaid.”

“Gan nad oes unrhyw arwydd y bydd yr argyfwng iechyd yn dod i ben yn fuan bydd y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i denantiaid yn parhau diolch i’n tîm anhygoel o wirfoddolwyr.”

 

 

 

 

Category: Cartrefi News