Digwyddiad newydd yw ‘Wee Ones Meet Wise Ones’ sy’n dod â mamau a babanod ynghyd â phobl hŷn. Mae’r digwyddiad wedi bod yn wych am y 2 sesiwn gyntaf a gynhaliwyd yng nghanolfan gymunedol Y Fron ym Mae Colwyn, a gwelodd mamau, rhai ifanc a rhai hŷn yn canu hwiangerddi, cael cwpan a sgwrs, ac wrth gwrs, cwtch gyda’r babanod.
Mae ‘Wee Ones Meet Wise Ones’ yn brosiect mewn partneriaeth gyda Thîm Lles Cymunedol Cyngor Conwy, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant a Cartrefi Conwy.
Cynllun y partneriaeth ydi cynnal sesiwn bob mis felly cadwch lygad ar agor ar ein tudalen Facebook a Twitter ar gyfer y misoedd nesaf.