Cafodd y gyn feddygfa yn Rhodfa Pwllcrochan ei haddasu a’i hymestyn gan Cartrefi Conwy gan greu 14 o fflatiau, wyth ohonynt gyda dwy ystafell wely a chwech gydag un ystafell wely.
Mae’r eiddo, a elwid gynt yn Rhoslan, wedi ei ail enwi yn Tŷ Llwyfen.
Mae’r fflatiau ar gael i bobl sydd mewn gwaith ac yn ennill rhwng £16,000 a £45,000, un ai yn unigol neu fel cwpl.
Caiff y fflatiau eu gosod ar “rent canolradd” sy’n golygu bod y rhent ar y cyfan tuag 20% yn is na graddfa’r farchnad leol.
Y nod yw galluogi pobl, gan gynnwys gweithwyr lleol allweddol, i arbed arian ar gyfer blaendal fel y byddant maes o law yn gallu prynu eu cartrefi eu hunain.
Mae’r cynllun yn rhan o strategaeth £40 miliwn Cartrefi Conwy i greu 250 o dai newydd erbyn 2020.
Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan y Cynghorydd Liz Roberts o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd yn arwain ar ofal cymdeithasol i oedolion, lles cymunedol a thai.
Caiff y fflatiau eu marchnata gan asiantaeth gosod HAWS sef partneriaeth rhwng Cartrefi Conwy a Chyngor Conwy.
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mae hwn yn ddatblygiad pwysig ac mae ein diolch yn fawr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru am wneud hyn yn bosibl trwy gyfrannu Grant Tai gwerth £450,000.
“Mae hyn yn addas iawn wrth i Gartrefi Conwy gyrraedd ei degfed blwyddyn o weithredu – hyd yma rydym wedi sicrhau bod 47 o gartrefi newydd ar gael i’w rhentu a disgwyliwn i 20 arall fod yn barod yn fuan iawn ac mae cynlluniau am 200 eto yn y dyfodol.
“Roedd oes aur Bae Colwyn yn prysur ddod yn hen hanes – a hyn mae’n debyg o ganlyniad i adeiladu ffordd yr A55 – sy’n golygu bod llai o bobl yn ymweld â’r dref, ond dyma ni bellach yn helpu i adfywio’r dref trwy ddarparu tai fforddiadwy hanfodol.