Menter newydd i hybu twf i Creu Menter ar ôl ennill gwobr fawr

Menter newydd i hybu twf i Creu Menter ar ôl ennill gwobr fawr

Mae Creu Menter sydd newydd ennill gwobr fawr yn y DU am ei thwf aruthrol o 300 y cant wedi lansio menter fasnachol newydd er mwyn helpu pobl eraill i ddilyn yn ôl ei thraed.

Mae Creu Menter, sef is-gwmni cymdeithas dai Cartrefi Conwy, wedi sicrhau’r drwydded i sefydlu rhaglenni dysgu a datblygu arloesol ledled Cymru i gwmnïau, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus.

Bydd yr Academi Mentrau Cymdeithasol yn defnyddio’r model a arloeswyd yn yr Alban sydd bellach wedi’i ailadrodd ar draws mwy na dwsin o wledydd cyn belled i ffwrdd â Chanada, Tsieina ac Awstralia.

Mae Creu Menter yn gweithio mewn partneriaeth a Chanolfan Gydweithredol Cymru, a fydd yn cyflwyno’r rhaglenni yn Ne Cymru.

Daw’r lansiad yn dynn ar sodlau’r newyddion fod Creu Menter wedi’i enwi fel Pencampwr Twf Gwobrau Busnes Cymdeithasol SE100 nodedig banc y NatWest yn Llundain.

Crëwyd argraff ar y beirniaid gan dwf cyflym y sefydliad ers iddo gael ei sefydlu’n gwmni budd cymunedol yn 2015.

Mae’r cyfrifon diweddaraf yn dangos cynnydd o dros 300 y cant mewn gwerthiant, o £1.3 miliwn i £5.4 miliwn, gydag elw’n cynyddu ar yr un gyfradd.

Yn ogystal â chynnal a chadw eiddo, mae Creu Menter yn helpu pobl leol, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy, i ddod o hyd i gyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd i wirfoddoli.

Am fwy o wybodaeth ar Creu Menter, ewch ir wefan www.creatingenterprise.org.uk

Category: Cartrefi News